Tocynnau Job-a-Mas

Mae 'Job-A-Mas' yn deillio o derm gâi ei ddefnyddio yn y diwydiant glo i gyfeirio at dasg oedd yn cael blaenoriaeth a fyddai'n cael ei wneud yn gyflym ac yn effeithiol ar amser penodol.

Mae tocyn Job-A-Mas yn eich galluogi i archebu slot am amser penodol ar y Daith Dan Ddaear unigryw.

Rhwng 21 Gorffennaf a 31 Awst 2024 bydd yn RHAID prynu tocynnau ar gyfer y Daith Dan Ddaear unigryw gyda thocyn Job-A-Mas £8 gyda slot amser i bob person, NEU docyn £5 ar y diwrnod sydd â niferoedd cyfyngedig a ddim yn gwarantu slot amser, ac efallai bydd yn rhaid i chi aros am gyfnod, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur.

Y tu allan i'r cyfnod hwn mae tocynnau Job-A-Mas ar gael i'w prynu NEU, gallwch barhau i gael mynediad i'r Daith Dan Ddaear am ddim, ond efallai y bydd yn rhaid i chi aros am gyfnod, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur.

Mae mynediad i'r Amgueddfa yn parhau i fod yn rhad ac am ddim.

Prynu tocynnau Job-a-Mas

Gall grwpiau o 10 neu fwy archebu tocynnau Job-a-Mas ymlaen llaw. Gallwch brynu tocynnau unigol wrth gyrraedd ar ddiwrnod eich ymweliad, nifer o lefydd cyfyngedig.

Archeb grŵp

Telerau ac Amodau