Dyma Morgie!
26 Ionawr 2018
,Dangosodd ddarganfyddiad y deinosor Cymreig, Dracoraptor, bod deinosoriaid yn byw yn ne Cymru 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Petaech chi'n teithio 'nôl i'r cyfnod hwnnw, fe fyddech chi hefyd wedi gweld ambell i famal bychan, tebyg i lygoden goch, yn cuddio yn y tyfiant. Rhain yw rhai o'r mamaliaid cynharaf yn y byd.
Gellir darganfod esgyrn a dannedd y creaduriaid bach blewog yma mewn ogofau a mewn craciau mewn cerrig - efallai am fod rhain yn cynnig lloches, neu le i aeafgysgu. Darganfyddwyd y ffosilau cyntaf ohonynt mewn chwarel yn ne Cymru rhyw saith deg mlynedd yn ôl. Mae Palaeontologwyr wedi bod yn dadansoddi'r ffosilau, er mwyn creu darlun fwy cyflawn o sut greaduriaid oedden nhw. Enw un o'r mamaliaid cynnar yma yw 'Morganucodon', sy'n golygu 'Dant Morgannwg'.
Mewn prosiect ymchwil newydd wedi'i gefnogi gan Y Cyngor Ymchwil Amgylcheddol, defnyddiodd wyddonwyr o Brifysgol Bryste belydr-X pwerus i sganio'r esgyrn bychain, i greu darlun digidol o'r creaduriaid. Cymharwyd y darluniau digidol yma gyda mamaliaid modern, er mwyn ail-greu strwythr cyhyrau'r anifail. Ychwanegwyd rheiny i'r darlun digidol. Wedi hynny, defnyddiwyd rhaglen arbennig i asesu sut y byddai'r esgyrn a'r cyhyrau'n symud. Astudiwyd dannedd y creaduriaid mewn manylder - roedd rhai mamamliaid cynnar yn meddu ar ddannedd ddigon cryf i grensio pryfaid gyda casys adennydd, ac eraill ond yn medru bwyta pryfaid meddal.
Mae model hyfryd o Morganucodon, wedi'i greu can Bob Nicholls, y palaeoartist, i'w ganfod yn ein orielau hanes natur yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'n edrych fel creadur bywiog iawn a'i enw yw Morgie!