Hafan y Blog

Catalogio, glanhau a phacio yn yr Amgueddfa Lechi

Chloe Ward, 2 Medi 2024

'Da ni wrthi'n paratoi ar gyfer y project ailddatblygu yn Amgueddfa Lechi Cymru, sydd ar ddechrau ym mis Tachwedd 2024!

Er mwyn sicrhau bod ein casgliadau diwydiannol pwysig yn cael eu gwarchod tra bod gwaith cadwraeth ac adnewyddu hanfodol yn cael ei wneud i’r Gilfach Ddu, mae’r casgliad yn symud. Wel... rhan ohono!

Mae ein Cynorthwywyr Casgliadau a Chatalogio, Mathew ac Osian, wedi bod yn brysur yn atodi labeli ac yn catalogio eitemau o’r casgliad sydd heb eu cofnodi'n mor fanwl o’r blaen. Byddant yn eu glanhau a'u pacio'n ddiogel gan ddefnyddio papur sidan. Cyn i'r gwaith hwn ddechrau, comisiynwyd Heneb i dynnu lluniau o'r gofodau a'r ystafelloedd yn yr amgueddfa. Gwnaethpwyd hyn er mwyn i ni allu cofnodi sut mae’r amgueddfa’n edrych cyn yr ailddatblygiad, ac fel y gellir dychwelyd rhannau o’r casgliad i’w gofodau gwreiddiol.

Swnio'n diddorol i chi, eisiau Cymryd Rhan? Beth am edrych ar ein rôl Gwirfoddolwr Casgliadau, yn recriwtio ar hyn o bryd! Cynhelir diwrnod hyfforddi ar 20 Medi. Bydd gwirfoddoli yn digwydd ar ddyddiau Mawrth a Iau.

Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â Chloe Ward, ein Cydlynydd Gwirfoddoli ac Ymgysylltu ar chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk.

Chloe Ward

Cydlynydd Gwirfoddoli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.