Hafan y Blog

Gwirfoddoli: Dewch i Gymryd Rhan drwy gatalogio a glanhau casgliadau yn Amgueddfa Lechi Cymru

Chloe Ward, 2 Medi 2024

'Da ni wrthi'n paratoi ar gyfer y project ailddatblygu yn Amgueddfa Lechi Cymru, sydd ar ddechrau ym mis Tachwedd 2024! Ac eisiau rhoi cyfle i wirfoddolwyr fod yn rhan o'r project drwy helpu ni glanhau, catalogio a phacio'r casgliad o batrymau yn y Llofft Batrwm.

Er mwyn sicrhau bod ein casgliadau diwydiannol pwysig yn cael eu gwarchod tra bod gwaith cadwraeth ac adnewyddu hanfodol yn cael ei wneud i’r Gilfach Ddu, mae’r casgliad yn symud. Wel... rhan ohono! Mae ein Cynorthwywyr Casgliadau a Chatalogio, Mathew ac Osian, eisoes wedi bod yn brysur yn atodi labeli ac yn catalogio eitemau o’r casgliad sydd heb eu cofnodi'n mor fanwl o’r blaen. Byddant yn eu glanhau a'u pacio'n ddiogel gan ddefnyddio papur sidan.

Mae hon yn gyfle gwych i ni fel amgueddfa groesawu gwirfoddolwyr mewn ffyrdd newydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle a rhoi cyfleoedd i bobl leol cael profiadau, datblygu sgiliau a chael gwella eu hiechyd meddwl trwy wirfoddoli.

Swnio'n ddiddorol? Eisiau Cymryd Rhan? Beth am edrych ar ddisgrifiad rôl Gwirfoddolwr Casgliadau sydd ar ein wefan. Cynhelir diwrnod hyfforddi ar 20 Medi. Bydd gwirfoddoli yn digwydd ar ddyddiau Mawrth ac Iau. Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â Chloe Ward, ein Cydlynydd Gwirfoddoli ac Ymgysylltu ar chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk.

Chloe Ward

Cydlynydd Gwirfoddoli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.