Blog Gwadd gan y Grŵp Tecstilau Cutting Edge: Arddangos ein Gwaith yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
, 13 Mai 2025
Ar ôl blwyddyn (2024) o greu tecstilau a chelf amlgyfrwng anhygoel wedi’u hysbrydoli gan Sain Ffagan, daeth aelodau Cutting Edge at ei gilydd yn Oriel Gweithdy, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 25 a 26 Ebrill i arddangos eu gwaith a chynnig gweithgareddau crefft a gwnïo i ymwelwyr er mwyn dathlu Wythnos Pontio Cenedlaethau’r Byd. Ac am ddeuddydd anhygoel!
Roedd yr ymwelwyr wrth eu boddau’n cael gweld yr arddangosfeydd a darllen y gweithlyfrau a oedd yn disgrifio sut datblygodd y prosiect dros amser. Roedden nhw hefyd wir yn mwynhau bod modd iddyn nhw ymuno yn y gweithgareddau amrywiol, a chawson ni lawer o adborth dros y deuddydd, mewn sgyrsiau ac yn y Llyfr Ymwelwyr. Dyma flas o’r hyn oedd gan bobl i’w ddweud:
“Fel cyd-gwiltiwr ac artist tecstilau, mae’n hyfryd mynd allan a gweld gwaith pawb. Llongyfarchiadau.” Lesley, Higham Quilters, Caerloyw
“Roedd yn drawiadol iawn gweld darn mor syfrdanol o ysbrydoliaeth leol a gwaith dychmygus” y teulu Byron
“Arddangosfa ffantastig. Da iawn bawb. Diolch am y croeso cynnes” Sue a Vicki
Rhoddodd y plant gynnig ar y rhan fwyaf o bethau, o liwio i stampio i wnïo, a oedd i weld yn plesio pawb. Ar ôl lliwio llun ar ffabrig, roedd llawer yn awyddus i roi cynnig ar wnïo, a doedden nhw methu cael digon!
Darluniodd un ferch fach y llythyren E yn fawr ar sgwâr tecstilau a dechreuodd ei wnïo. Roedd hi’n siomedig pan oedd rhaid iddi adael ar ganol ei gwaith, ond fe aeth hi ag ychydig o edafedd gyda hi i’w orffen gartref. Serch hynny, nes ymlaen daeth yn ôl i gasglu mwy o edafedd gan ei bod wedi rhedeg allan o un o’r lliwiau. Mae’n rhaid ei bod hi wedi dod o hyd i gornel fach i barhau â’i gwnïo wrth grwydro o gwmpas yr amgueddfa!
Roedd yr oedolion yn mwynhau’r gwnïo hefyd!
Bu criw Grŵp Pwytho Pontardawe yn mwynhau creu broetsys a thylluanod:
“Am arddangosfa hyfryd, mor ysbrydoledig. Diolch am fy nhylluan/pengwin. Dw i wrth fy modd ag e! Rydych chi’n griw mor hyfryd. Diolch yn fawr i chi gyd!" Glenda, Stitch Pontadawe.
“Am ddigwyddiad hyfryd. Diolch am y cit broetsh. Wnes i fwynhau ei greu yn fawr. Roedd pawb yn hyfryd a chyfeillgar.” Dawn
Roedd digonedd o dylluanod yno diolch i Carol. Roedden nhw mor boblogaidd nes bod rhaid iddi fynd adre nos Wener i baratoi mwy!
“Diolch Carol am fy helpu i greu fy nhylluan!”
Roedd yna waith lliwio a braslunio gwych i’w weld. Roedd llyfrau braslunio lledr bach Pat yr un mor boblogaidd â thylluanod Carol. Dydy hynny’n ddim syndod, gan eu bod yn rhodd bach gwych i fynd adre gyda chi.
“Diwrnod hyfryd gyda llawer o grefftau gwych, mwynheuodd y plant yn fawr. Diolch yn fawr iawn.”
Doedd aelodau Cutting Edge ddim yn ofni ymgolli yn y gweithgareddau eu hunain chwaith. Roedden nhw wrth eu boddau’n sgwrsio ag ymwelwyr hefyd, gan ei fod yn gyfle i rannu gwybodaeth, cyngor, ac i’w cyfeirio at adnoddau. Roedd un ymwelydd yn bwriadu mynd ati i drwsio lliain allor, ac roedd hi’n falch iawn o gael ei chyflwyno i ymwelydd arall a allai ei helpu i ddod o hyd i’r plethiadau oedd eu hangen arni.
Adborth gan aelodau grŵp Cutting Edge:
“Mwynheais i’r prynhawn. Roedd yn ffordd wych o’i dreulio. Ro’n i wrth fy modd yn edrych ar yr arddangosfeydd unwaith eto, a mwynheais i’r stampio!” Sally
“Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl gyda chymaint o ddiddordeb a gwerthfawrogiad... cwrddais i â phobl hyfryd, gyda rhai’n dweud eu bod wedi’u hysbrydoli i roi cynnig ar rywbeth creadigol eu hunain, a phlant cwrtais iawn oedd yn dweud diolch am eu helpu. Wrth fy modd.” Ella.
“Am amser hyfryd heddiw yn cwrdd ag ymwelwyr oedd â chymaint o ddiddordeb yng ngwaith ein grŵp. Roedd cymaint wedi’u synnu ar yr ystod o wahanol sgiliau celf / tecstilau oedd i’w gweld. Ond fy hoff ran oedd y bachgen ifanc yn y llun uchod, a oedd yn benderfynol o bwytho o gwmpas ei gennin Pedr cyn gadael. Roedd hi mor braf cael cyfle i annog y bobl ifanc.” Liz
“Deuddydd gwych, a chymaint o bobl yn gadael wedi’u hysbrydoli i barhau i bwytho.” Eleri
Roedd y cwilt Monopoly yn boblogaidd, a chafwyd sawl awgrym ar gyfer cartref parhaol iddo, ond roedd llawer o’r farn y dylai aros yn Sain Ffagan.
“Ystod anhygoel o waith a sgiliau. Wir wedi mwynhau’r arddangosfa gyfan, yn enwedig y cwilt Monopoly.” Lesley, Y Rhws
Roedd prosiect pwytho coeden deulu Carol yn boblogaidd hefyd. Roedd Carol wedi’i syfrdanu gan yr ymateb a gafodd. O ganlyniad, mae cnewyllyn gweithdy bellach yn cael ei ffurfio!
Dros y ddau ddiwrnod, cawson ni dros 650 o ymwelwyr – o bell ac agos – a rhai mor bell â’r Iseldiroedd!
Roedd dwy fenyw o’r Iseldiroedd a ymwelodd yn awyddus i brynu darnau o’n gwaith celf. Pan ofynnon ni beth oedd yn denu eu diddordeb, cyfeirion nhw at gerdyn post Dianne a cherdyn post Thomas the Taylor gan Monica. Rhoddwyd y cardiau yn rhodd i’r menywod, a chyfnewidiwyd cyfeiriadau gydag addewid gan Monica a Dianne y bydden nhw’n postio cerdyn post ffabrig iddyn nhw hefyd!
Deuddydd gwych, gydag ymwelwyr ac aelodau Cutting Edge wedi mwynhau fel ei gilydd.
Diolch yn fawr i:
Yr aelod o staff Sain Ffagan, Loveday, a aeth yr ail filltir i wneud yn siŵr fod popeth oedd ei angen arnon ni ganddon ni. Fe wnaeth hi hyd yn oed ymuno a helpu pan oedden ni’n brysur iawn, ac roedden ni wir yn gwerthfawrogi hynny!
Gŵr Jan, Alan, am dynnu lluniau i ni. Maen nhw’n edrych yn wych yn ein halbwm!
A diolch yn fawr iawn i holl aelodau anhygoel Cutting Edge am eu darnau o waith ysbrydoledig a’u hymroddiad i wneud y digwyddiad deuddydd yn Sain Ffagan yn un cofiadwy. Rydych chi’n sêr!
Cynhalion ni’r digwyddiad yn ystod Wythnos Pontio Cenedlaethau’r Byd, a oedd ar ddiwedd y gwyliau Pasg. Roedd yn sicr yn ticio pob bocs ar gyfer ymgysylltu rhwng cenedlaethau, gan fod plant ac oedolion wedi gadael yno’n hapus ac yn fwy hyderus gyda’r sgiliau newydd roedden nhw wedi’u dysgu.
“Arddangosfa wych a hyfryd oedd gweld yr holl sgiliau. Menter hyfryd, a gwych i blant o bob oed i’w phrofi!”
"Fantastisch!" Lia, yr Iseldiroedd
“Arddangosfa ysbrydoledig wych. Ro’n i’n hoff o’r amrywiaeth hefyd – patrymau, pwythau, dyfrlliwiau. Mwynheais i’r gweithgareddau ymarferol hefyd. Ymlaciol a hwyl.” Gwynedd
“Am ddigwyddiad gwych, gyda darnau gwaith hyfryd i’w hedmygu ac i ysbrydoli! Roedd darparu popeth ar gyfer y prosiectau pontio’r cenedlaethau wnaethon ni mor garedig a hael” Caroline
“Arddangosfa ardderchog. Menywod dawnus a hyfryd.”
Ar ôl y digwyddiad, roedden ni’n falch iawn o dderbyn llun o’r digwyddiad gan Mike, sy’n aelod o Grŵp Braslunio Sain Ffagan. Ymwelodd ar y dydd Sadwrn, gan eistedd yn dawel yn y gornel yn braslunio’r olygfa o’i flaen. Roedd e’n meddwl bod ein gwaith, fel ei waith e, yn anhygoel:
“Cefais i’r cyfle i ymweld â’r arddangosfa o waith aelodau Grŵp Tecstilau Cutting Edge yn Sain Ffagan. Roedd hi’n ddiwrnod hyfryd, ac roedd y digwyddiad yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd yn mwynhau diwedd gwyliau’r Pasg. Roedd llawer o weithgareddau llawn hwyl i blant ac oedolion. Cefais fy annog i ymweld ag arddangosfa Grŵp Tecstilau Cutting Edge i weld beth maen nhw’n ei wneud gan aelod o’r grŵp sydd hefyd yn aelod o Grŵp Braslunio Sain Ffagan. Yr ateb yw llawer, gyda’r safon yn uchel iawn hefyd! Roedd pawb mor garedig yn rhannu eu gwaith. Mae gen i lwyth o syniadau, a cheisiais ddal y digwyddiad yn fy mraslun” Instagram @mikelinewalker
Nodyn cloi:
Postiodd Monica gerdyn post ffabrig at un o’r menywod o’r Iseldiroedd a ymwelodd â’r arddangosfa, ac fe gyrhaeddodd y cerdyn cyn iddi ddychwelyd adre i’r Iseldiroedd! Dyma’r e-bost gafodd Monica gan Thea:
“Annwyl Monica,
Am sioc oedd darganfod bod y cerdyn anfonaist ti ata i wedi cyrraedd yn barod erbyn i fi ddychwelyd o fy ngwyliau yn teithio drwy Gymru.
Roedd hi’n braf iawn dy gwrdd yn yr arddangosfa a chael dewis o’r cardiau roeddet ti wedi’u creu. Roedd hi’n arddangosfa ysbrydoledig iawn, a mwynheais i hi’n fawr.
Bydda i’n dangos y cardiau i aelodau’r clwb cwiltio yfory, ac rwy’n siŵr y byddan nhw wrth eu bodd gyda nhw hefyd. Mae angen i fi ddod o hyd i le da i’w rhoi nhw, un ai yn fy nghartref neu yn fy ysgol, lle bydda i’n mwynhau edrych arnyn nhw, ond dydw i ddim yn siŵr eto.
Dymuniadau gorau, ac i aelodau eraill Grŵp Tecstilau Cutting Edge
Thea”
I ddysgu mwy am Grŵp Cutting Edge, ymwelwch â: Cutting Edge | Sharing textiles knowledge, ideas and skills
