Ymunwch â'r miloedd o wyddonwyr ifanc sy'n ymchwilio i'r hinsawdd gydag Amgueddfa Cymru
Mae gwyddonwyr ifanc o bob cwr o'r DU yn defnyddio bylbiau cennin Pedr a crocws i astudio effeithiau newid hinsawdd. Mae'r astudiaeth yn gwella sgiliau gwyddoniaeth a rhifedd tu allan i'r dosbarth drwy gael disgyblion i blannu, arsylwi, a chadw cofnodion tywydd.
Bob blwyddyn mae 175 o ysgolion ar draws y DU yn cymryd rhan. Mae'r project yn cael ei gynnal yn Gymraeg a Saesneg, ac yn addas ar gyfer ysgolion mewn dinasoedd, trefi, a chefn gwlad.
Astudiaeth hirdymor sy'n digwydd ar draws y Deyrnas Unedig:
- Dechreuodd yr astudiaeth hir-dymor yng Nghymru yn 2005, cyn ehangu i'r Alban a Lloegr yn 2011, ac i Ogledd Iwerddon yn 2017. Bydd Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed yn ystod blwyddyn academaidd 2025-26!
- Athro’r Ardd a’r Bwlb Bychan yw'r cymeriadau cartŵn sy'n arwain yr ymchwiliad. Maen nhw'n gwahodd plant i gymryd rhan, yn ateb cwestiynau'r disgyblion ac yn rhannu adnoddau a blogiau drwy gydol y project.
- Gwobrau Gwyddonwyr Gwych 2023-24
- Enillwyr Bylbcast 2024
Cymryd rhan:
- Rhaid i ysgolion gofrestru yn ystod tymor yr haf – ar gyfer dechrau yn yr hydref.
- Bydd y bylbiau yn cael eu plannu ar ddiwrnod penodol ym mis Hydref.
- Rhwng Tachwedd a diwedd Mawrth bydd y disgyblion yn cadw cofnodion tywydd bob dydd.
- Rhwng Ionawr a diwedd Mawrth bydd y disgyblion yn arsylwi ac yn cofnodi tyfiant a blaguro.
- Mae ysgolion sy'n cwblhau'r astudiaeth yn derbyn tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych ac yn cael cyfle i ennill taith i amgueddfa neu ganolfan wyddoniaeth.
'Mae'n bleser cydweithio â Edina Trust, sy'n noddi'r astudiaeth ar draws y DU'
Dyma Beth Sydd Angen i Chi Wneud
1
Mae ceisiadau yn llawn ar gyfer 2024-25
2
Derbyn pecyn adnoddau yn gynnar ym mis Hydref
3
Plannwch eich bylbiau ym mis Hydref a chymerwch gofnodion tywydd o fis Tachwedd i fis Mawrth
4
Cofnodwch eich data tywydd a data blodau i'r wefan i ennill gwobrau
Crynodeb
Nifer yr ysgolion wnaeth gymryd rhan eleni
Tymheredd cyfartalog yr holl ysgolion
°C
Glawiad cyfartalog yr holl ysgolion
mm
Cyfanswm y data a gasglwyd eleni
Blog Blodau
18 Hydref 2024
Adnoddau Athrawon
Oedrannau: 8–11
Oedrannau: 8–11
Oedrannau: 8–11
Oedrannau: 8–11
Oedrannau: 8–11
Oedrannau: 8–11
Oedrannau: 8–11
Oedrannau: 8–11
Oedrannau: 8–11
Calendr o Wythnosau pan Fydd Ysgolion yn Casglu Data Tywydd
2024
- 4 Tach – 8 Tach
- 11 Tach – 15 Tach
- 18 Tach – 22 Tach
- 25 Tach – 29 Tach
- 2 Rha – 6 Rha
- 9 Rha – 13 Rha
- 16 Rha – 20 Rha
2025
- 6 Ion – 10 Ion
- 13 Ion – 17 Ion
- 20 Ion – 24 Ion
- 27 Ion – 31 Ion
- 3 Chwe – 7 Chwe
- 10 Chwe – 14 Chwe
- 17 Chwe – 21 Chwe
- 24 Chwe – 28 Chwe
- 3 Maw – 7 Maw
- 10 Maw – 14 Maw
- 17 Maw – 21 Maw
- 24 Maw – 28 Maw