Cwrs:Darlunio Botanegol - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Cwrs diwrnod yn rhoi'r cyfle i chi droi eich llaw at Ddarlunio Botanegol.
Dan arweiniad yr artist Debbie Devauden, byddwch yn dysgu'r technegau sydd eu hangen i greu paentiad dyfrlliw.
Mae hwn yn gwrs addas i ddechreuwyr a darlunwyr ychydig yn fwy profiadol, ac mae'r pris yn cynnwys yr holl ddeunyddiau angenrheidiol.
Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n caffi.
Gwybodaeth Bwysig:
Iaith
Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwyluswyr - sef Saesneg.
Cyfyngiad Oedran
16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
Hygyrchedd:
Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod unrhyw anghenion hygyrchedd.
Gall darllen y telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau yma.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.
Gwybodaeth
Papaya Carica papaya, o Plantae Selectae 1772 gan Georg Dionysius Ehret (1708-1770).
Tocynnau
Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
---|---|---|
12 July 2025 | 10:30 | Gweld Tocynnau |