Arddangosfa:Rheolau Celf?
Mwy o amser yn yr addangosfa!
Dewch i fwynhau arddangosfa Rheolau Celf? nes 9pm ar nos Iau gyntaf bob mis fel rhan o'n cynllun oriau ychwanegol, Mwy o Amser
Mae Rheolau Celf? yn twrio drwy bum canrif o baentiau a darluniau, cerfluniau a cherameg, ffilm a ffotograffiaeth i holi cwestiynau pwysig am gynrychiolaeth, hunaniaeth a diwylliant.
Caiff y gweithiau eu trefnu mewn ffordd sy'n cwestiynu'r pŵer cymdeithasol a gwleidyddol a amlygir yn y gweithiau. Bydd yn dangos sut mae artistiaid drwy'r canrifoedd wedi parhau i herio, tanseilio ac ail-ddychmygu'r hyn y gall celf fod.
Caiff caffaeliad mawr newydd, Gogledd Cymru gan Chris Ofili, ei ddangos ochr yn ochr â gweithiau artistiaid megis Rembrandt, Thomas Jones, Pablo Picasso, Gwen John, Maximilian Lenz, Clare Woods, Bedwyr Williams, Caroline Walker a Clémentine Schneidermann.
Bydd ystod o gelf hanesyddol, modern a chyfoes o gasgliadau Amgueddfa Cymru i'w gweld, a rhai gweithiau'n cael eu paru gyda'i gilydd am y tro cyntaf er mwyn creu perthynas newydd rhyngddynt ac amlygu rhai o faterion cymdeithasol ein byd ni heddiw.
Mae Amgueddfa Cymru yn gweithio gydag artistiaid ac awduron i arwain partneriaid cymunedol i ddehongli elfennau o'r arddangosfa. Bydd hwn yn arwain at ffordd newydd ac unigryw i ddod a llu o leisiau ynghyd i holi beth yw Rheolau Celf?
Beth yw Rheolau Celf?
Beth mae Rheolau Celf yn ei olygu? Pwy sy'n gosod y rheolau hyn? A sut mae artistiaid wedi herio ac atgyfnerthu'r rheolau dros y blynyddoedd?
Darganfyddwch fwy yn ein cyfres ffilm:
Digwyddiadau Cysylltiedig
PDF o destun oriel Rheolau Celf?
i wneud yr arddangosfa yn fwy hygyrch.
Podcast Rheolau Celf?
Mae'r podcast hwn yn ategu arddangosfa Rheolau Celf? yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac wedi'i ariannu gan Grant Tynnu'r Llwch Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Arweinydd y bennod hon yw'r bardd a'r sgwennwr Grug Muse sy'n trafod gyda chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru Talulah Thomas, Cerys John a Breifni Hedd. Recordiwyd a golygwyd y podcast hwn gan Catrina Morgan.
Mae'r podcast yn trafod dau waith – Tyrrau Mawr gan Bedwyr Williams a Tirlun Cymreig gyda Dwy Ddynes yn Gweu gan William Dyce.
Mae Môr Vertigo yn eiddo ar y cyd i oriel gelf Towner ac Amgueddfa Cymru. Caffaelwyd gyda chymorth y Gronfa Gelf (gyda chyfraniad gan Sefydliad Wolfson), Ymddiriedolaeth Derek Williams, Sefydliad Search drwy'r Gymdeithas Gelf Gyfoes a Chronfa Ddatblygu Casgliad Towner, 2019.
Cefnogir Rheolau Celf? gan Elusen Gwendoline a Margaret Davies, Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs a Colwinston Charitable Trust.
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
Bydd ein horiau agor yn newid dros y gaeaf.
O ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10yb-4yp.
Parcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.
Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
- Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadLleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safle >Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd