Digwyddiad:Haf o Hwyl - Gweithgareddau Crefft

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Ymunwch â'n hwyluswyr ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau crefft addas i deuluoedd, gan gynnwys cyfle i greu eich campwaith tirwedd papur wedi'i chwalu eich hun.  Does dim angen archebu lle, galwch heibio ar y diwrnod a chymerwch rhan.

Mae'r gweithgareddau hyn yn cael eu trefnu gan Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru fel rhan o fenter Haf o Hwyl, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Cymerwch olwg ar yr holl ddigwyddiadau / gweithgareddau Haf o Hwyl:

Gwybodaeth

12–14, 19, 26, 28 Awst a 2 Medi 2022
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Dyma logo gyda'r geiriau Haf o Hwyl, Summer of fun wedi eu hysgrifennu mewn glas ar gefndir hufen, uwchben y tecst mae amlinelliad o dri calon, y cyntaf yn binc gyda'r ail yn goch ar trydydd yn felyn
Dyma logo Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru, mae'r testun yn goch ar gefndir gwyn. Mae yma hefyd amlinelliad adeilad treftadol ar yr ochr chwith

Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru

Dyma Logo gyda'r geiriau yn nodi bod y prosiect wedi ei arianu gan Lywodraeth Cymru gyda testun du ar gefndir gwyn
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

10am–5pm. Orielau'n cau am 4.45pm.

Ar agor chwech diwrnod yr wythnos: dydd Mawrth i Dydd Sul. Cau Dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc

Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.

Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
  • Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.

Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau