Digwyddiad: Beachwatch 2022
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
Dewch i draeth Aberogwr i ddysgu am fywyd gwyllt, creigiau a ffosilau’r ardal a helpu i lanhau’r traeth gyda’r Gymdeithas Cadwraeth Forol.
1pm – 2.30pm: Glanhau’r traeth.
2.30pm – 3.30pm: Cinio
3.30pm – 5pm: Gweithgareddau addysgiadol am ddim.
- Nodwch: Rhaid archebu ar gyfer gweithgareddau addysgiadol. Gadewch rif ffôn wrth archebu er mwyn i ni allu cysylltu â chi os yw’r digwyddiad wedi’i ganslo oherwydd tywydd gwael.
- CYFARPAR – Byddwn yn darparu’r holl gyfarpar sydd ei angen, ond mae angen gwisgo esgidiau a dillad call rhag ofn y bydd y tywydd yn wael, ac eli haul os yw hi’n heulog!
- CWRDD – Ar y traeth o flaen yr Orsaf Gwylwyr y Glannau (i’r chwith o’r llithrfa lawr i’r traeth). Byddwn yn gwisgo siacedi oren llachar.
- CINIO – Os ydych yn dod ar gyfer gweithgareddau’r prynhawn a’r glanhau mae’n syniad dod â phecyn bwyd.
- PARCIO – Y gost am barcio car yn y maes parcio am ddiwrnod yw tua £6 felly dewch â newid.
- Does dim rhaid archebu ar gyfer y digwyddiad glanhau’r traeth.
- Mae llawer mwy o wybodaeth ynghylch Beachwatch ar wefan y Gymdeithas Cadwraeth Forol: www.mcsuk.org
Nid yw holl hwyluswyr y digwyddiad hwn yn siarad Cymraeg yn rhugl. Chwiliwch am y symbol os am gymorth gan ein siaradwyr Cymraeg a’n dysgwyr. Os ydych chi’n dysgu Cymraeg, rhowch gynnig arni!