Digwyddiad: Diwrnod Treftadaeth Somaliaid Cymreig


Dathlu Menywod Somali – Archwilio Hunaniaeth, Diwylliant a Threftadaeth
Ymunwch â ni am ddiwrnod o sgyrsiau a gweithgareddau i ddathlu Menywod Somali a’u cyfraniad at dreftadaeth Cymru.
Digwyddiad wedi’i arwain gan y gymuned fydd hwn, a bydd yn pontio’r cenedlaethau, ac yn cyflwyno safbwyntiau amrywiol ar dreftadaeth a diwylliant yng Nghymru a Somaliland.
Ymysg y gweithgareddau bydd sgyrsiau, straeon hynafiaid, perfformiadau, gweithdai ar ddillad Somali, dawnsio, cerddoriaeth, bwyd a barddoniaeth.
Bydd y Somali Dance Group yn perfformio, a gwestai arbennig.
Croeso i bawb!
Mae'r ddolen archebu tocynnau uchod
Mae mynediad Darlithfa Reardon Smith ar Blas y Parc, tu cefn i Amgueddfa Cymru.
Dolen geoleoliad:
https://goo.gl/maps/uHui8o8pv58FMctR7
Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd wrth gyrraedd, mae croeso i chi gysylltu ag aaron.schoburgh@amgueddfacymru.ac.uk.
Edrychwn ymlaen at eich gweld