Digwyddiad: Hwyrnos: QUEER

Noson o ddathlu, cefnogi a chysylltu cymunedau LHDTQ+ Caerdydd. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi sylw i thema Mis Hanes LHDTQ+, sef ‘Tu ôl i’r lens’. Ymunwch â ni am noson o weithdai, straeon, perfformiadau, podlediadau byw, sgyrsiau a ffilmiau.
Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi perfformiadau dawns gan The Welsh Ballroom Community a Qwerin. I ddilyn bydd Queeroke gyda’r seren TikTok Ellis Jones, ynghyd â’r ddeuawd o Gaerdydd, Welsh Chicks DJs!
Bydd y brif neuadd yn llawn stondinau gan grefftwyr lleol yn gwerthu eu celf ac yn cynnig gweithdai a gwybodaeth. Dyma rhai fydd yn ymuno gyda ni:
Trans Aid Cymru
Trawsnewid
Myths n Tits
Cardiff Foxes
Cardiff and Vale College
Reginald Arthur
Ren Wolfe
Sarah Cliff
Morgan Dowdall
Mi fydd Motel Nights yno tan hwyr yn gwerthu bwyd, Coctêls a Moctêls blasus. Hefyd cewch blas ar gwîn a chwrw Gays Who Wine.
Amserlen lawn i ddod yn fuan...