Digwyddiad: Hwyrnos: QUEER
Noson o ddathlu, cefnogi a chysylltu cymunedau LHDTQ+ Caerdydd. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi sylw i thema Mis Hanes LHDTQ+, sef ‘Tu ôl i’r lens’. Ymunwch â ni am noson o weithdai, straeon, perfformiadau, podlediadau byw, sgyrsiau a ffilmiau.
Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi perfformiadau dawns gan The Welsh Ballroom Community, Qwerin a Iris Prize. I ddilyn bydd Queeroke gyda Catrin Feelings ynghyd â’r ddeuawd o Gaerdydd, Welsh Chicks DJs!
Hoffi gwylio ffilmiau? Mi fydd Iris Prize yn cyflwyno ffilm byr 'Cardiff' gyda cyfle i ofyn cwestiynnau i'r actorion i'w ddilyn.
Bydd y brif neuadd yn llawn stondinau gan grefftwyr lleol yn gwerthu eu celf ac yn cynnig gweithdai a gwybodaeth. Dyma rhai fydd yn ymuno gyda ni:
Trans Aid Cymru
Trawsnewid
Myths n Tits
Cardiff Foxes
Cardiff and Vale College
Reginald Arthur
Ren Wolfe
Sarah Cliff
Morgan Dowdall
Mi fydd Motel Nights yno tan hwyr yn gwerthu bwyd, Coctêls a Moctêls blasus.
Amserlen lawn i ddod yn fuan...