Digwyddiad: Gyda'r Hwyr: Gwyddoniaeth Ar Waith
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Gwyddoniaeth Ar Waith

Gyda'r Hwyr

Cyfle i chi gwrdd â gwyddonwyr a pheirianwyr o Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd, a mwynhau llond trol o weithgareddau rhyngweithiol, hwyliog... a chael bod yn yr amgueddfa wedi iddi dywyllu!
Beth gawn ni ei wneud?
- Cwrdd â’r curaduron Gwyddorau Naturiol a blasu ambell drychfil bwytadwy!
- Chwarae ein gêm ‘Bridge of Lies’, a rhoi hop, cam a naid i’r llinell derfyn.
- Darganfod sut fyddwn ni’n gwrando am graciau mewn deunyddiau.
- Dysgu sut i ddefnyddio telesgop a gwylio’r sêr.
- Dysgu am ficroblastigau ac ailgylchu plastig yn y fan a’r lle!
- Chwarae gyda’r Gerddorfa Ynni.
- Sut caiff ffosilau eu ffurfio? Cyfle i weld sbesimenau anhygoel.
- Sgwrsio gyda’n curadur fertebratau ynghylch y cynnyrch anifeiliaid anghyfreithlon sy’n cael eu cludo i’r wlad - a sut mae hynny’n peryglu anifeiliaid. Gyda Dr Rhys Jones!
- Hen ddillad newydd! Dysgwch fwy am drwsio ac ailgylchu dillad.
- Wyddoch chi beth sydd yn eich ffôn symudol? Dysgwch pa ddeunyddiau sydd yn ein ffonau, a lle maen nhw’n dod.
- Ymuno â’r chwyldro garddio a chreu bomiau hadau.
- Codio robot i wneud iddo symud.
- Chwarae gyda deunyddiau magnetig.
- A llawer mwy!
Bydd caffi a siop yr Amgueddfa ar agor drwy’r noson.