Digwyddiad: Llwyfan Newydd
Ymunwch â ni i ddechrau'r penwythnos yn Narlithfa Reardon Smith Amgueddfa Cymru gyda noson o berfformiadau byw a ffilmiau yn rhoi llwyfan i artistiaid MOBO Cymreig.
Ymhlith y perfformwyr, bydd...
- Ogun
- SZWÉ
- Anwar Siziba
- Miss Faithee
Byddwn ni hefyd yn dangos dwy ffilm nodwedd fel ymateb i arddangosfa BBC 100 yng Nghymru. Mae'r ffilmiau'n rhannu profiad cyfoes Du gyda ni gan gynnwys y rhwystrau, teimladau o orfoledd a pherthyn, a sylw sydd mawr ei angen at gyfraniadau cymunedau Du at gyfoethogi Cymru a chreu gwlad ddiwylliannol amrywiol.
Ffilm: Sesiwn 1 Black and Welsh
Cyfarwyddwr: Liana Stewart
Cynhyrchwyr: Catryn Ramasut, ie ie Productions
29 munud
Pan oedd awdur y ffilm Liana Stewart yn tyfu fyny yn Butetown, Caerdydd, ychydig iawn o rolau model Du Cymreig oedd ar y teledu. Ers amser hir mae hi wedi eisiau gwneud ffilm sy'n dod â phobl o bob cwr o Gymru ynghyd i rannu eu profiadau o beth yw bod yn Ddu ac yn Gymreig. A dyma ffrwyth ei llafur. Mae hi'n plethu casgliad o straeon gafaelgar ynghyd wrth iddi gwrdd â phobl o Gasnewydd yn y de i Eryri yn y gogledd, ac o fodel 19 oed sy'n serennu ar lwyfannau ffasiwn y byd i berson 92 oed a gyrhaeddodd Cymru cyn llong yr Empire Windrush.
Ffilm: New Voices from Wales: The Honey Sessions Mixtape
Cyfarwyddwr: Meirion Lewis
Cynhyrchwyr: Its My Shout.
13 munud
Golwg ar gerddoriaeth MOBO yng Nghymru gyda'r cerddor a chyfansoddwr ifanc o dde Cymru, Sizwé Chitiyo. Mae MOBO yn genre anferth sy'n cynnwys hip hop, soul a jazz ac mae'n sîn gyfoethog a llwyddiannus gyda llawer iawn o ffans a dilynwyr.
Yn y rhaglen ddogfen hon, mae Sizwé yn taflu goleuni ar rai o'r materion a rhwystrau y gall artistiaid Cymreig eu hwynebu. Bydd hefyd yn ein cyflwyno i'r Honey Sessions, menter gerddorol ar gyfer perfformwyr a phobl greadigol sy'n gweithio'n galed i godi proffil y genre a rhoi llwyfan i dalentau artistiaid Cymreig ifanc. Trwy'r Honey Sessions, cawn glywed straeon sêr newydd Cymru a sut mae'r fenter yn helpu i sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed.
Cyfeiriad archebu tocynnau
Mae mynediad Darlithfa Reardon Smith ar Blas y Parc, tu cefn i Amgueddfa Cymru.
Dolen geoleoliad:
https://goo.gl/maps/uHui8o8pv58FMctR7
Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd wrth gyrraedd, mae croeso i chi gysylltu ag aaron.schoburgh@amgueddfacymru.ac.uk.
Edrychwn ymlaen at eich gweld