Digwyddiadau

Digwyddiad: Goliwio o Iran gyda Neda Mohammad

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
6 Gorffennaf 2023 , 6pm-8pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy gwych fydd yn mynd â chi ar daith i fyd hudolus goleuadau Persiaidd. 

Cewch ddysgu hanes y grefft hynafol sy’n deillio o Persia’r 10fed ganrif, lle cafodd aur, arabésg a blodau eu cyfuno i ddarlunio natur mewn golau dwyfol. 

Yn y gweithdy hwn, bydd Neda Mohammad yn mynd â chi ar daith drwy amser, gan roi cyflwyniad arbennig i Oleuadau Persiaidd. Yna, bydd cyfle i chi roi cynnig ar y technegau arlunio sydd eu hangen i greu’r patrymau cain.  Bydd Neda yn eich tywys wrth i chi archwilio’r elfennau sy’n dod â’r gweithiau hyn yn fyw - dail, blagur, blodau a throellau.

 Gyda’r elfennau hyn, byddwch yn gallu creu patrymau goleuo eich hun, trwy ddilyn hen dechnegau’r canrifoedd.


tocynnau

Digwyddiadau