Digwyddiad:Goliwio o Iran gyda Neda Mohammad
Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy gwych fydd yn mynd â chi ar daith i fyd hudolus goleuadau Persiaidd.
Cewch ddysgu hanes y grefft hynafol sy’n deillio o Persia’r 10fed ganrif, lle cafodd aur, arabésg a blodau eu cyfuno i ddarlunio natur mewn golau dwyfol.
Yn y gweithdy hwn, bydd Neda Mohammad yn mynd â chi ar daith drwy amser, gan roi cyflwyniad arbennig i Oleuadau Persiaidd. Yna, bydd cyfle i chi roi cynnig ar y technegau arlunio sydd eu hangen i greu’r patrymau cain. Bydd Neda yn eich tywys wrth i chi archwilio’r elfennau sy’n dod â’r gweithiau hyn yn fyw - dail, blagur, blodau a throellau.
Gyda’r elfennau hyn, byddwch yn gallu creu patrymau goleuo eich hun, trwy ddilyn hen dechnegau’r canrifoedd.
Gwybodaeth
Ymweld
Parcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.
Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadLleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safle >Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd