Digwyddiad:Gweithdai Creadigol Môrwelion/The Sea Horizon
Ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol wedi'u hysbrydoli gan arddangosfa Môrwelion. Datgelwch haenau cudd yn ffotograffau Harry Fabian Miller o Aber Hafren ac arfordir Cymru drwy gyfrwng barddoniaeth a rhyddiaith. Mae pob gweithdy wedi'i arwain gan arbenigwr o grŵp ymchwil Image Works ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gweithdy 1: 23 Awst 2023, 12-2pm
Arweinydd: Arwa Al-Mubaddel, Myfyriwr PhD, Prifysgol Caerdydd
Teitl: Delweddu Môrwelion Myfyrdod Barddonol (ar ffurf Haiku)
Ffurf: Gweithdy Therapi Greadigol
Disgrifiad: Beth yw potensial môrwelion i danio myfyrdod a mynegiant creadigol? Sut all cyfarfyddiad awyr a môr adlewyrchu ein meddyliau a'n teimladau ar adegau gwahanol o'n bywyd? Ysbrydolwyd gan arddangosfa Môrwelion gan Garry Fabian Miller. Dros ddwy sesiwn bydd y gweithdy therapi greadigol yn gofyn i ni ystyried y cwestiynau hyn drwy fyfyrio delweddol a thawelwch. Bydd y cyfranogwyr wedyn yn cael eu harwain i gyfleu eu meddyliau a'u teimladau ar ffurf farddonol yr Haiku Siapaneaidd. Mae ffurf tair llinell, 5-7-5 sillaf yr Haiku yn ffurf ddelfrydol i gyfleu ein myfyrdod o'r awyr y gorwel a'r môr mewn modd creadigol. Bydd y sesiwn yn gorffen drwy ddarllen a myfyrio ar ein Haikus Môrwelion.
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
O ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm.
Orielau yn cau am 3.34pm.
Ar agor chwech diwrnod yr wythnos: dydd Mawrth i ddydd Sul. Ar gau dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc.
Parcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.
Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
- Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadLleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safle >Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd