Digwyddiadau

Digwyddiad: Gweithdai Creadigol Môrwelion/The Sea Horizon

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
23 Awst 2023 , 12:00-14:00
Pris Am Ddim
Addasrwydd 16+

The Sea Horizon, Rhif 18, 1976-77

© Garry Fabian Miller

Ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol wedi'u hysbrydoli gan arddangosfa Môrwelion. Datgelwch haenau cudd yn ffotograffau Harry Fabian Miller o Aber Hafren ac arfordir Cymru drwy gyfrwng barddoniaeth a rhyddiaith. Mae pob gweithdy wedi'i arwain gan arbenigwr o grŵp ymchwil Image Works ym Mhrifysgol Caerdydd. 

 

Gweithdy 1: 23 Awst 2023, 12-2pm

Arweinydd: Arwa Al-Mubaddel, Myfyriwr PhD, Prifysgol Caerdydd

Teitl:⁠ Delweddu Môrwelion Myfyrdod Barddonol (ar ffurf Haiku)

Ffurf: Gweithdy Therapi Greadigol

Disgrifiad:⁠ Beth yw potensial môrwelion i danio myfyrdod a mynegiant creadigol? Sut all cyfarfyddiad awyr a môr adlewyrchu ein meddyliau a'n teimladau ar adegau gwahanol o'n bywyd? Ysbrydolwyd gan arddangosfa Môrwelion gan Garry Fabian Miller. Dros ddwy sesiwn bydd y gweithdy therapi greadigol yn gofyn i ni ystyried y cwestiynau hyn drwy fyfyrio delweddol a thawelwch. Bydd y cyfranogwyr wedyn yn cael eu harwain i gyfleu eu meddyliau a'u teimladau ar ffurf farddonol yr Haiku Siapaneaidd. Mae ffurf tair llinell, 5-7-5 sillaf yr Haiku yn ffurf ddelfrydol i gyfleu ein myfyrdod o'r awyr y gorwel a'r môr mewn modd creadigol. Bydd y sesiwn yn gorffen drwy ddarllen a myfyrio ar ein Haikus Môrwelion.

 

 

Digwyddiadau