Digwyddiad: Gweithdai Creadigol Môrwelion/The Sea Horizon
Ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol wedi'u hysbrydoli gan arddangosfa Môrwelion. Datgelwch haenau cudd yn ffotograffau Harry Fabian Miller o Aber Hafren ac arfordir Cymru drwy gyfrwng barddoniaeth a rhyddiaith. Mae pob gweithdy wedi'i arwain gan arbenigwr o grŵp ymchwil Image Works ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gweithdy 4: 30 Awst 2023, 12-2pm
Arweinydd: Dr. Sophie Buchaillard, Uwch-Gymrawd, Prifysgol Caerdydd
Teitl: Teithiau Dychmygol: Siwrnai i Fôrwelion
Ffurf: Gweithdy ysgrifennu
Hyd: 2 awr
Disgrifiad: Ers canrifoedd mae'r môr wedi ysbrydoli morwyr a theithwyr i godi pac a theithio ymhell. Byddwn ni'n defnyddio arddangosfa Môrwelion gan Garry Fabian Miller i drafod teithiau dychmygol tu hwnt i'r gorwel. Bydd y gweithdy yn gyfle i gyfranogwyr arbrofi â ffurfiau rhyddiaith teithio modern (ffaith a ffuglen), gyda'r siwrnai yn drosiad am daith bersonol.