Digwyddiad:Cynhadledd Cymru Anhysbys 2023
Ymunwch â ni am fore o sgyrsiau am ddim am y diweddaraf ym myd bywyd gwyllt Cymru.
Bellach yn ei drydedd flwyddyn ar ddeg, mae Cymru Anhysbys yn cynnwys siaradwyr blaenllaw o bob cornel o Gymru, yn siarad am eu canfyddiadau a phrojectau natur diweddaraf.
Gyda diweddariadau gan bobl sy'n gweithio ar y rheng flaen gyda phlanhigion, anifeiliaid, a daeareg, mae yna rywbeth at ddant bawb.
Naill ai ymunwch â ni yn fyw yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, neu gallwch gofrestru i wylio'n rhithiol. Dyma eich cyfle i glywed gan yr arbenigwyr, ac i ofyn eich cwestiynau.
Siaradwyr 2023:
Adfer Eryrod Môr yng Nghymru (Sophie-Lee Williams, Ailgyflwyno'r Eryr Cymru)
Sgwrs wyneb yn wyneb; yn Saesneg
Mae Sophie-Lee yn fiolegydd adar ysglyfaethus ac mae ei hymchwil yn llywio cynlluniau i ailgyflwyno'r adar gwych hyn i'r gwyllt yng Nghymru. Fe wnaeth gwblhau PhD mewn eryrod ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Bywyd Gwyllt Durrell, Wildfowl and Wetlands Trust, ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent.
Hanes y “Diemwntau Cymreig” (Tom Cotterell, Amgueddfa Cymru)
Sgwrs wyneb yn wyneb; yn Saesneg.
Mae Tom yn Uwch Guradur ac yn arbenigo ar grisialau a mwynau. Mae'n debyg nad ydych chi wedi clywed am ddiemwntau Cymreig, am reswm da - nid oes unrhyw wir ddiemwntau ym Mhrydain! Er hynny, mae "diemwntau Cymreig" hyd yn oed yn fwy diddorol ac mae ganddynt hanes arbennig sy'n mynd yn ôl canrifoedd. Bydd y sgwrs hon yn datgelu popeth.
Taith dywys i fyd y parasitiaid ( Gethin Rhys Thomas, Prifysgol Abertawe)
Sgwrs wyneb yn wyneb; yn Gymraeg
Mae Gethin yn Uwch Ddarlithydd a fydd yn tyrchu i fyd diddorol y parasitiaid, a'u haddasiadau i fynd heibio amddiffyniadau eu cynhalwyr. Mae parasitiaid yn aml yn cael eu hanghofio pan rydyn ni'n ystyried bioamrywiaeth, er eu bod yn chwarae rhan hanfodol yn cynnal cydbwysedd ecolegol - gallant hyd yn oed herwgipio eu cynhalwyr at ddibenion ysgeler eu hunain!
Trawsnewid fferm ar gyfer natur (James Hitchcock, Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed)
Sgwrs rithwir fyw; yn Saesneg
Bydd James, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed, yn ein tywys ni o amgylch Fferm Pentwyn yng nghanolbarth Cymru ac yn dangos sut mae'r fferm da byw hon yn cael ei thrawsnewid yn hafan natur. Bydd yn amlinellu'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol a sut yr ymgynghorir â'r gymuned leol a rhanddeiliaid ynglŷn â sut mae'r tir yn cael ei reoli. O dingochiaid i farcudiaid cochion, sut fydd y lle hwn yn cael ei drawsnewid dros y 5, 15 neu 30 mlynedd nesaf?
Plant Atlas 2020: Yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu o'r arolwg mwyaf erioed o blanhigion Prydain ac Iwerddon (James Harding-Morris, Cymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon)
Sgwrs wedi'i recordio ymlaen llaw; yn Saesneg
James yw Rheolwr Cymorth Gwledydd Cymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon a bydd yn dangos yr atlas planhigion 2020 newydd sbon, yr arolwg mwyaf trylwyr o fflora Prydain ac Iwerddon a fu erioed. Treuliodd miloedd o fotanegwyr 20 mlynedd yn cofnodi planhigion gwyllt a phlanhigion sydd wedi cynefino yma. Gwnaethon nhw gasglu dros 30 miliwn o gofnodion a wnaeth gyfrannu at wefan, llyfr ac adroddiadau cryno Plant Atlas 2020. Beth mae canlyniadau'r arolwg digyffelyb hwn yn ei ddweud wrthym?
Sylwer: mae'r sgwrs hon wedi'i recordio ymlaen llaw felly ni fydd cyfle i ofyn cwestiynau. Bydd cyhoeddiadau sy'n ymwneud â Plant Atlas 2020 ar gael yn Narlithfa Reardon Smith.
Rhagor o wybodaeth
- Bydd Cymru Anhysbys yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn Theatr Reardon Smith.
- Bydd mynediad i'r theatr drwy Ddrws y Gogledd sydd ar Blas y Parc, nid prif fynedfa'r amgueddfa.
- Beth am roi rhodd tuag at y gost o gynnal Cymru Anhysbys? Talwch beth allwch chi - awgrymwn gyfraniad o £5.
- Mae'r drysau'n agor am 9.30am, â'r sgyrsiau rhwng 10am a 1pm.
- Mae hwn yn ddigwyddiad hybrid, felly gallwch wylio'r siaradwyr yn fyw yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, neu gallwch wylio'n rhithiol.
- Bydd y sgwrs yn iaith gyntaf y siaradwr. Darperir cyfieithu ar y pryd.
- Ni fyddwn yn darparu diodydd ond mae croeso i chi ddod â diodydd eich hunain. Neu beth am ddal i fyny gyda ffrindiau yn siop goffi neu fwyty'r Amgueddfa ar ôl y gynhadledd?Neu beth am ddal i fyny gyda ffrindiau yn siop goffi neu fwyty'r Amgueddfa ar ôl y gynhadledd?Neu beth am ddal i fyny gyda ffrindiau yn siop goffi neu fwyty'r Amgueddfa ar ôl y gynhadledd?Neu beth am ddal i fyny gyda ffrindiau yn siop goffi neu fwyty'r Amgueddfa ar ôl y gynhadledd?
- Awgrymwn ei fod yn addas i oed 12+.
- Mae Cymru Hysbys yn fenter ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
Bydd ein horiau agor yn newid dros y gaeaf.
O ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10yb-4yp.
Parcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.
Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
- Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadLleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safle >Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd