Digwyddiadau

Digwyddiad: Wythnos Addysg Oedolion - Yr Orielau Celf Hanesyddol: Taith dywys ar gyfer ymwelwyr dall ac ymwelwyr sydd a nam ar eu golwg

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
21 Medi 2023, 10.30am - 12.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Archebu tocyn 

Bydd y daith hon, sydd ar gyfer ymwelwyr dall ac ymwelwyr sydd â nam ar eu golwg, yn mynd â nhw drwy’r Orielau Celf Hanesyddol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda disgrifiad sain. 

Bydd cyfle i chi ddarganfod mwy am rai o’r paentiadau sy’n cael eu harddangos a hefyd bydd cyfle i sgwrsio a myfyrio’n anffurfiol ar ôl y daith. 

 

Mae mynediad drwy lifft at bob llawr sy’n cynnwys gwaith celf . 

 

Rhaid cadw lle ymlaen llaw. Gallwch gadw lle ar-lein neu drwy e-bostio tocynnau@amgueddfacymru.ac.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith hon, ffoniwch (029) 2057 3240. 

Mae pob tocyn yn rhoi mynediad i chi a thywysydd fel cwmni. 

Mae tocynnau am ddim ond mae croeso i chi roi cyfraniad. 

 

Ar ôl cyrraedd am 10.30am, ewch i’r dderbynfa yn y Brif Neuadd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (gyferbyn â’r prif ddrysau a rhywfaint i’r chwith), lle bydd yr aelod staff sy’n arwain y daith yno i’ch cyfarfod.  

 

Digwyddiadau