Digwyddiad: Wythnos Addysg Oedolion - Gwirfoddolwyr Archwilio yn yr Amgueddfa
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

AM DDIM, galw heibio
Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad pwysig i waith Amgueddfa Cymru, gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o brojectau ar draws yr amgueddfeydd. Dewch i gwrdd â rhai o'n Gwirfoddolwyr Archwilio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd sy'n helpu ymwelwyr i ymgysylltu ag arddangosfeydd, a dysgu sut allwch chi gymryd rhan.