Digwyddiad:Edrych ar Hanes Llafur: treftadaeth a chydweithredu cynhwysol
Dewch i edrych ar gasgliadau’r Amgueddfa i ddysgu am hanes llafur yng Nghymru a’r byd, dan arweiniad Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
Bydd academyddion o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caeredin a churaduron o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru yn amlinellu’r gwahanol ffyrdd o ddeall a chynrychioli hanes llafur o’u gwaith yng Nghastell Penrhyn ger Bangor. Bydd cyfle hefyd i drafod y ffordd orau i ddehongli a chyflwyno naratifau llafur a chamfanteisio yn lleoliadau treftadaeth Cymru gyfoes.
Os hoffech ymuno â thaith dywys ddewisol drwy Ail-fframio Picton, rhwng 4.30pm-5pm cyn y digwyddiad hwn, archebwch yn fan hyn:
Mae’r digwyddiad yn rhan o Ŵyl Being Human, gŵyl genedlaethol y Dyniaethau yn y DU, sy’n cael ei chynnal rhwng 9-18 Tachwedd. Am fwy o wybodaeth, ewch i beinghumanfestival.org.
Ar y cyd ag Prifysgol Caerdydd.
Cymerwch olwg ar yr holl ddigwyddiadau ŵyl Being Human..
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd