Arddangosfa: 100 Celf




Celf pwy?
Mae casgliad celf cenedlaethol Cymru yn perthyn i bawb, ond dim ond llond llaw o bobl sydd wedi cael yr hawl i benderfynu beth i'w gasglu a sut i'w gyflwyno.
Yw hyn yn deg? Pwy ddylai ddewis beth welwn ni?
Dewisodd curaduron Amgueddfa Cymru 100 o weithiau celf o’r casgliadau i’w rhannu ar Instagram, a gofyn i’n dilynwyr hoffi’r lluniau, gadael sylwadau, a rhannu eu ffefrynnau.
Fe ddysgon ni gymaint, a chael ein synnu! Chafodd rhai o’r gweithiau roedden ni’n siŵr fyddai’n boblogaidd, ddim hanner yr ymateb ar-lein â gweithiau mwy cyfoes.
Diolch i’r ymateb, dyma ni’n creu rhestr fer o’r gweithiau mwyaf poblogaidd, a dyma welwch chi yn yr oriel hon.
Cyn cael eu dangos yma, dangoswyd y gweithiau yn Y Gaer yn Aberhonddu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Oriel Môn.
100 Celf – Celf ar y Cyd
Tyfodd 100 Celf o bedwar project dan faner Celf ar y Cyd, a ddatblygwyd i rannu’r celfyddydau i bob cwr o Gymru.
Mae gwefan newydd Celf ar y Cyd yn greiddiol i Oriel Gelf Genedlaethol i Gymru, dan nawdd Llywodraeth Cymru. Hafan | Celf ar y Cyd
Bydd y fenter gyffrous hon yn rhoi mynediad i bobl ym mhob cwr o Gymru i’w casgliad cenedlaethol, yn y cnawd ac ar-lein.