Digwyddiad:Y Cynfas Byw

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Galwch draw i weld gwisgoedd hanesyddol o bortreadau yn ein casgliadau wedi'u hailgreu gan fyfyrwyr Cwrs Creu Gwisgoedd Coleg y Cymoedd. Bydd y paentiadau sy'n addurno'r orielau yn dod yn fyw diolch i fisoedd o ymchwil hanesyddol a gwaith caled y myfyrwyr.  

 

10.30am – 11.30am12.30pm – 1.30pm y myfyrwyr yn trafod eu gwisgoedd o flaen y portreadau wnaethon nhw eu dewis yn yr orielau 

 2pm sioe ffasiwn a beirniadu yn y Brif Neuadd ⁠Bydd seddi ar gael, ond y cyntaf i'r felin gaiff falu. 

 

Cwrs tair blynedd gan Brifysgol De Cymru yw'r cwrs BA(Anh) mewn Creu Gwisgoedd yng Ngholeg y Cymoedd. Mae'r myfyrwyr yn astudio gwisgoedd hanesyddol a modern, gan ddatblygu sgiliau arbenigol fel torri patrymau, creu dillad ac addurno arwynebau. 

Gwybodaeth

17 Mawrth 2024, 10.30am - 3pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Galw heibio
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
  • Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.

Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau