Digwyddiad:Gweithdy Pompom Caredigrwydd Radical - Sesiynau Galw Heibio i Deuluoedd
Mae caredigrwydd radical wedi’i wreiddio mewn natur a dynoliaeth, ac yn dod yn fyw drwy greadigrwydd, ymgyrchu drwy grefftau a bod yn garedig.
Cymerwch ran yn y gweithdy meddylgar ac ymlaciol hwn, dan arweiniad Naz Syed. Cewch wneud pompom i gyflwyno neges o garedigrwydd. Ymgyrchwch drwy grefftau, a lledaenu llawenydd, caredigrwydd a natur bositif.
Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 11am a 2.30pm. Does dim angen archebu lle. Rhaid i rieni neu warcheidwaid fod gyda phlant dan 16 oed drwy’r amser.
Mae'r gweithdy hwn wedi'i gynllunio ar gyfer plant 6+ ac oedolion.
Bydd y sesiwn yma yn cael ei chynnal yn Saesneg.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd