Digwyddiadau

Digwyddiad: Amgueddfa Dros Nos: Deinos

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
4 a 5 Mai 2024, 5.30pm - 9.15am
Pris £70 / £75 / £95
Addasrwydd Teuluoedd

Gwahoddiad arbennig – dewch i ddarganfod beth sy’n digwydd yn yr Amgueddfa wedi iddi nosi...ac aros y nos!

Dyma fydd yn digwydd:

  • Taith dan olau fflachlamp i archwilio Cymru fel yr oedd 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl
  • Cyfarfod ambell i ddeinosor cyfeillgar mewn sioe i’w chofio
  • Gweithdy crefft – wedi’u hysbrydoli gan ffosilau, olion troed ac esgyrn o gasgliad yr Amgueddfa
  • Ffilm cyn gwely yn ein theatr fawreddog – cyn cysgu o dan y gromen fawr...a breuddwydio am wlad
  • Dihuno ben bore am frecwast cyn mwynhau sesiwn ymarfer corff (ysgafn!) i’r teulu cyfan gyda DanceFit Wales
  • Deffro’n gynnar i grwydro’r orielau, cyn mentro’n ôl i’r 21ain ganrif.

TOCYNNAU

Nifer cyfyngedig o docynnau. Ni ellir cael ad-daliad. Mae’r digwyddiad hwn yn addas i blant 6 i 12 oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn sy'n talu.

Pris Tocyn:

Prif Neuadd: Plentyn £70 / Oedolyn £70   
Alcof: Plentyn £75 / Oedolyn £75   
VIP Llys Llysysydd: Plentyn £95 / Oedolyn £95   
VIP Criw Cigysydd: Plentyn £95 / Oedolyn £95   
 

Diolch i gefnogaeth hael chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Oes canllaw oed ar gyfer y digwyddiad hwn?

Mae'r digwyddiad hwn yn addas i blant 6–12 oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, bob amser.

Mae'r digwyddiad a'r gweithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer plant 6 i 12 oed, ac felly gofynnwn i gwsmeriaid gadw at y canllaw oed. Ni fydd plant sy'n iau neu'n hŷn na'r canllaw oed yn cael mynediad.

Beth fydd yn digwydd ar y noson?

Bydd digwyddiad arferol Amgueddfa Dros Nos yn edrych fel hyn:

5.30p - Drysau'n agor a chofrestru

6.15pm - Cau'r drysau, dim mynediad wedi hyn

6.15pm - Rhannu'r gwesteion yn grwpiau, a'r arweinwyr tîm yn briffio

6.30pm–9.15pm - Gweithgareddau, Blwch Danteithion a Siocled Poeth

9.30pm - Ffilm

11.20pm - Paratoi gwelyau

12.00am - Diffodd y golau

7.00am - Amser codi a phacio

7.20am - Brecwast, ymarfer corff, orielau ar agor

9.15am - Diwedd y digwyddiad

10.00am - Yr Amgueddfa’n agor i’r cyhoedd

Mae’r Amgueddfa’n cadw’r hawl i addasu'r amserlen a'i chynnwys os oes angen gwneud hynny er mwyn sicrhau digwyddiad diogel a hwyliog.

Ychwanegiadau Gwersyll Gwych heb eu cynnwys uchod (stori cyn gwely a taith tu ôl i’r llenni).

Beth fyddaf i ei angen?

Rhaid i bob plentyn a rhiant ddod â sach gysgu, gobennydd, past dannedd a brwsh dannedd.

Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo esgidiau addas a dillad i gysgu ynddynt. Bydd unrhyw fagiau llaw yn cael eu storio mewn ystafell gyfagos. Nid yw’r Amgueddfa’n ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb dros eitemau personol. Rhaid i ddillad cysgu fod yn addas i'w gwisgo tu allan, rhag ofn y bydd angen gwagio'r adeilad (er bod hyn yn annhebygol).

Rhaid gwisgo esgidiau addas bob amser yn yr Amgueddfa, heblaw pan fyddwch yn cysgu.

Byddwn yn darparu matiau cysgu tenau, ond mae croeso i chi ddod ag un eich hun. Oherwydd cyfyngiadau lle ni fyddwn yn caniatáu matiau na matresi gwynt. Os ydych chi angen dod â'ch mat cysgu eich hun am resymau meddygol, gadewch i ni wybod wrth archebu.

Rydyn ni’n gweithio’n galed fel Amgueddfa i wella cynaliadwyedd, felly cofiwch ddod â photeli dŵr eich hun. Ni fydd poteli dŵr yn cael eu darparu, ond bydd digon o lefydd i chi lenwi eich potel eich hun.

Bydd rhywfaint o oleuadau diogelwch ymlaen dros nos. Rydym yn argymell masgiau llygad i'ch helpu i gysgu.

Peidiwch â dod ag eitemau sydd â gwerth ariannol neu sentimental. Nid yw’r Amgueddfa’n ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb dros eitemau ymwelwyr gaiff eu difrodi neu eu colli.

Ni fyddwn yn caniatáu i fynychwyr roi plygiau trydan yn socedi'r Amgueddfa yn ystod y digwyddiad, am resymau iechyd a diogelwch. Cysylltwch os oes angen mynediad at bŵer neu rewgell am resymau meddygol.

Oes angen i ni ddod â bwyd?

Rydym yn argymell i chi fwyta pryd o fwyd cyn cyrraedd.

Byddwn yn darparu blwch danteithion a siocled poeth i bawb rhwng 7pm ac 8.30pm (bydd ymwelwyr yn cael eu rhannu'n dimau ar gyfer gweithgareddau, a bydd timau'n derbyn eu blychau bwyd ar wahanol adegau).

Mae croeso i chi ddod â bwyd ychwanegol i'w fwyta'n hwyrach yn y nos. Peidiwch â dod â chyfarpar coginio.

Rydym yn argymell i chi ddod â dŵr ar gyfer eich grŵp

Mae ein blychau danteithion yn cynnwys:

  • Frechdan*
  • Creision
  • Ffrwythau wedi sychu
  • Bisgedi Oreo
  • Siocled poeth – gyda malws melys a hufen

Yn y bore, bydd y brecwast yn cynnwys:

  • Dewis o greision ŷd
  • Tost gyda jam a menyn
  • Salad ffrwythau
  • Sudd ffrwythau
  • Te a choffi ffres

* Bydd manylion dietegol a dewis brechdanau yn cael eu casglu wrth archebu. All dewis brechdanau ddim cael eu newid ar y diwrnod. Dewiswch frechdanau: Ham / Caws / Salad Cyw Iâr / Tiwna, Mayo, Ciwcymbyr / Salad Falafel.

Nid yw'r digwyddiad yn amgylchedd di-gnau. Os oes gan unrhyw aelod o'ch grŵp alergedd yr ydych yn poeni yn ei gylch, cysylltwch â i gadarnhau ymlaen llaw drwy e-bostiodigwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk.

Os na fydd un o'ch grŵp yn gallu bwyta'r eitemau yn y blwch danteithion neu'r brecwast, gallwch ddod â bwyd eich hunain, ond sylwer na allwn ddarparu oergell.

Sawl oedolyn sydd ei angen ar gyfer pob grŵp?

Dyma'r nifer o oedolion fydd eu hangen ar gyfer gwahanol niferoedd:

  • 1 plentyn | 1 oedolyn
  • 2-4 plentyn | 2 oedolyn
  • 5-12 plentyn | 3 oedolyn
  • 13-20 plentyn | 4 oedolyn
  • 21-28 plentyn | 5 oedolyn
  • 29-36 plentyn | 6 oedolyn

Bydd oedolion yn cysgu yn yr un ardal â'r plant yn eu grŵp. Rhaid i oedolion fod o leiaf 18 oed a bydd angen dangos prawf o hyn wrth gofrestru.

Faint o'r gloch fydd angen i mi gyrraedd?

Defnyddiwch brif fynedfa'r Amgueddfa ar Heol Gerddi'r Orsedd. Bydd y drysau'n agor am 5.30pm ac yn cau am 6.15pm. Ni fydd mynediad ar ôl 6.15pm.

Ewch ihttps://amgueddfa.cymru/caerdydd/ymweld/lleoliad/ am fwy o fanylion ar sut i'n cyrraedd.

Mae maes parcio yng nghefn yr Amgueddfa, oddi ar Rodfa'r Amgueddfa. £5 fydd cost parcio drwy gydol y digwyddiad a gallwch ei dalu cyn gadael yn y bore. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly cyntaf i'r felin.

Beth os ydw i'n rhedeg yn hwyr?

Os ydych yn credu y byddwch yn hwyr e-bostiwch ni neu ffonio:

e-bost:digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk

Allwn ni ddim cynnig ad-daliad na gostyngiad os ydych chi’n hwyr.

Oes angen ffurflenni caniatâd ar gyfer y plant?

Bydd angen darparu ffurflen ganiatâd ar gyfer pobl plentyn sy’n mynychu. Bydd y rhain yn cael eu hanfon at ddeiliad pob tocyn dros e-bost ar ôl prynu’r tocynnau.

All plentyn ddim mynychu’r digwyddiad heb ffurflen ganiatâd gan riant/gwarcheidwad.

Yw'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer plant sydd ag anghenion mynediad?

Mae'r holl ardaloedd a ddefnyddir yn y digwyddiad hwn yn hygyrch, ond oherwydd natur hanesyddol yr adeilad efallai y bydd angen defnyddio llwybrau eraill i gefnogi anghenion arbennig. Rydym yn eich annog i gysylltu â ni cyn archebu, er mwyn cadarnhau y gallwn gwrdd â'ch anghenion.

Lle Tawel: Rydyn ni wedi creu lle tawel ar gyfer teuluoedd all fod angen ysbaid o fwrlwm y digwyddiad. Gall aelod staff eich cyfeirio chi at yr ardal hon unrhyw bryd yn ystod y digywddiad.

Rhowch wybod wrth archebu os oes angen siaradwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn ystod y digwyddiad. Bydd siaradwr BSL ar gael drwy gydol y noson, gan gynnwys dros nos.

Lle fyddaf i'n cysgu, a beth yw'r trefniadau cysgu ar gyfer bechgyn a merched?

Bydd pob gwestai yn cysgu yn y Brif Neuadd. Gallwch chi ddewis ardal gysgu wrth archebu eich tocynnau. Os oes angen cymorth arbennig arnoch chi am lle fyddwch chi’n cysgu, rhowch wybod wrth archebu.

Bydd Gwersyllwyr Gwych yn cysgu yn:

Gwersyll Gwych: Llys Llysyswyr – Oriel Hanes Cymru

Gwersyll Gwych: Criw Cygyswyr – Oriel Esblygiad Cymru

Bydd staff y digwyddiad a staff diogelwch wrth law drwy'r nos i sicrhau fod pawb yn ddiogel a chyffyrddus. Mae camerâu cylch cyfyng yn weithredol drwy'r Amgueddfa.

All oedolion ddod ag alcohol?

Mae alcohol wedi'i wahardd yn llwyr yn y digwyddiad hwn. Os ydym yn credu fod unrhyw un yn yfed alcohol yn ystod y digwyddiad byddwn yn gofyn iddynt adael y digwyddiad ar unwaith. Mae gan ein staff hawl i chwilio bagiau a phrofi hylifau ar unrhyw bwynt yn ystod y digwyddiad.

Mae ysmygu ar y safle hefyd wedi'i wahardd yn ystod y digwyddiad (gan gynnwys dyfeisiau trydanol) ac ni allwn ganiatáu i ymwelwyr fynd i mewn ac allan o'r adeilad yn ystod y noson.

Beth os yw un o fy grŵp yn sâl?

Bydd staff gyda hyfforddiant cymorth cyntaf wrth law i helpu gydag unrhyw broblemau.

Beth os oes angen i mi adael yn gynnar yn y bore?

Caiff drysau'r Amgueddfa eu cau wedi i'r digwyddiad gychwyn ac ni fydd modd gadael oni bai bod argyfwng. Nid ydym yn argymell gadael yn gynnar, ond os bydd angen i chi adael yn ystod y digwyddiad gadewch i ni wybod ymlaen llaw.

Os oes angen i chi adael y digwyddiad ar unrhyw adeg oherwydd argyfwng, siaradwch ag aelod o staff.

Lle allaf i gael mwy o fanylion?

Os oes gennych chi fwy o gwestiynau ynghylch y digwyddiad neu eisiau dweud mwy wrthym am anghenion arbennig ymlaen llaw, cysylltwch ag aelod o'r tîm digwyddiadau ar:

digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk

Gwersyll Gwych: Llys Llysysydd

Tocyn Arbennig yn cynnwys holl weithgareddau Deffro gyda’r Deinos, a:

  • Gwely aer mewn ardal wersylla dawel, arbennig yn yr Oriel Hanes Natur, ger yr Heulforgi ac anifeiliaid y goedwig.
  • Mynediad i’r ardal wersylla pan fyddwch chi’n cyrraedd. Setlwch mewn a pharatoi – bydd y Llys Llysyswyr wedi paratoi yn barod i chi.
  • Stori dan y sêr yn ystafell y Glec Fawr cyn amser gwely.
  • Cwrdd a babi deinosor. Mwynhewch ymweliad arbennig Chris y Ceidwad a’i ymlusgiaid anhygoel.
  • Cip tu ôl i’r llenni gyda phalaeontolegydd. Dewch ar daith i storfeydd yr Amgueddfa i weld ble mae ffosilau ac esgyrn deinosoriaid yn cael eu cadw. *

Dewch â sach gysgu a gobennydd eich hun. Bydd gwelyau aer ar gael.

*Bydd y teithiau tu ôl i’r llenni am 10am a 10:30am ar fore dydd Sul, ar ôl i’r digwyddiad orffen. Byddwch chi’n cael slot amser, ac nid oes modd newid hwn.

Gwersyll Gwych: Criw Cigysydd

  • Tocyn Arbennig yn cynnwys holl weithgareddau Deffro gyda’r Deinos, a:
  • Gwersylla gyda’r deinos! Cyfle arbennig iawn i gysgu yn Oriel Esblygiad Cymru, fetrau o’r deinosoriaid a’r mamoth blewog. (Gwersyll, bach, arbennig yw hwn, ac mae llefydd yn brin iawn). Bydd y gwersyll yn cael ei greu wrth i’r ffilm gael ei dangos, gan y bydd gweithgareddau yn yr oriel ymlaen llaw.
  • Cwrdd a babi deinosor. Mwynhewch ymweliad arbennig Chris y Ceidwad a’i ymlusgiaid anhygoel.
  • Stori dan y sêr yn ystafell y Glec Fawr cyn amser gwely.
  • Cip tu ôl i’r llenni gyda phalaeontolegydd. Dewch ar daith i storfeydd yr Amgueddfa i weld ble mae ffosilau ac esgyrn deinosoriaid yn cael eu cadw. *

Dewch â sach gysgu a gobennydd eich hun. Bydd gwelyau aer ar gael.

*Bydd y teithiau tu ôl i’r llenni am 10am a 10:30am ar fore dydd Sul, ar ôl i’r digwyddiad orffen. Byddwch chi’n cael slot amser, ac nid oes modd newid hwn.

Rhowch wybod wrth archebu os oes angen siaradwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn ystod y digwyddiad. Bydd siaradwr BSL ar gael drwy gydol y noson, gan gynnwys dros nos.  

Digwyddiadau