Digwyddiad: Justice is Served
Mae Briddgariot Productions yn cyflwyno hanes gwefreiddiol Justice Is Served, cyfuniad o ddarllediad radio a theatr byw wedi’i ysgrifennu gan Anthony Wright, a’i gyfarwyddo gan Robert Marrable.
Dewch gyda ni ar daith drwy amser gyda Vernon Morgan, mewnfudwr o Jamaica sy'n dod i arfer â Chymru yn y 1950au.
Wrth chwilio am ddechrau newydd, mae Vernon yn edrych ar sylfaeni cymdeithas Cymru, ac yn cael ei ddal mewn pob math o gyfyng-gyngor moesegol.
Cafodd Anthony Wright ei ysbrydoliaeth gan ei dad, Victor Wright, mewnfudwr o Jamaica a gyrhaeddodd Gymru yn ystod cyfnod Windrush. Drwy’r theatr, mae Anthony yn taflu goleuni ar straeon angof glowyr du Cymru.
Bachwch ar y cyfle hwn i weld hanes yn dod yn fyw ar y llwyfan wrth i ni edrych ar gymhlethdodau hunaniaeth, cyfiawnder ac ysbryd pobl.
Mae mynedfa Darlithfa Reardon Smith ar Park Place yng nghefn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.