Digwyddiad: Datganiad ar yr Organ
Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 26 Ebrill, am y cyngerdd cyntaf mewn cyfres newydd o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.
Bydd yr organydd cyngherddau enwog Margaret Phillips yn chwarae rhaglen 45 munud arbennig i lansio’r gyfres.
Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodo. Bydd pob dyddiad cyngerdd yn 2024 ar gael yn fuan.
Margaret Phillips
Yn un o organyddion ac athrawon gorau Prydain, mae Margaret Phillips wedi chwarae mewn neuaddau cyngerdd ac eglwysi ar draws Ewrop ac yn yr UDA, Canada, Awstralia a Mecsico. Mae uchafbwyntiau o’i pherfformiadau dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys cyngherddau i enwogion yn Abaty Westminster, Eglwys Gadeiriol Sant Paul, a’r Royal Festival Hall a gafodd ei ddarlledu ar BBC Radio 3. Yn 2015 cynhaliodd ddwy gyfres farathon, 18 cyngerdd yr un, o holl waith Bach, ac mae canmoliaeth mawr wedi bod i’w CDs niferus, sy’n cynnwys holl gerddoriaeth organ Bach, Mendelssohn, Saint-Saëns a Stanley. Mae llawer o alw am ei gwasanaeth fel athrawes, tiwtor meistroli ac aelod rheithgor. Rhwng 1996 a 2021 roedd yn Athro’r Organ yng Ngholeg Brenhinol Cerddoriaeth yn Llundain. Yn 2022 derbyniodd Fedal Coleg Brenhinol yr Organyddion, yr anrhydedd mwyaf a roddir gan y Coleg.
Ym 1994, sefydlodd Margaret Phillips a’i gŵr yr English Organ School and Museum ar safle’r hen gapel ym Milborne Port, Gwlad yr Haf, lle mae casgliad bach o organau gan adeiladwyr organ o Loegr o’r 18fed ganrif hyd at y presennol.
Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.