Digwyddiadau

Arddangosfa: Y Cymoedd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
25 Mai–3 Tachwedd 2024
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

© Bruce Davidson/Magnum Photos/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

© Dan Wood

Beth mae Y Cymoedd yn ei olygu i chi?

O Rydaman i Bont-y-pŵl, mae artistiaid o bedwar ban byd wedi cael eu hysbrydoli gan Gymoedd de Cymru ers y ddeunawfed ganrif. Yn Y Cymoedd rydyn ni’n dangos gweithiau artistiaid o’r casgliad cenedlaethol er mwyn adrodd rhai o straeon yr ardal.

Mae’r arddangosfa yn dangos dros 200 o weithiau celf o bob math, o baentiadau a ffotograffau i ffilmiau a chelf gymhwysol, er mwyn datgelu sut mae tirwedd y Cymoedd a bywyd eu cymunedau wedi cael eu gweddnewid gan ddur a glo, a chyfraniad allweddol y cymunedau hyn i’r byd modern.

Yn yr 20fed ganrif, daeth y cymunedau hyn dan bwysau economaidd a chymdeithasol mawr. Ymatebodd artistiaid drwy greu portreadau unigryw a rhyngwladol bwysig o brofiad y dosbarth gweithiol, ond mae’r traddodiad gweledol hwn yn anghyfarwydd i lawer heddiw.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan dros 60 artist, gan gynnwys Tina Carr ac Annemarie Schöne, Robert Frank, Josef Herman, ac Ernest Zobole, ac yn cyflwyno gwaith artistiaid a chrefftwyr hunanddysgedig y maes glo, gan gynnwys Nicholas Evans, Harry Rodgers ac Illtyd David.

Yn yr arddangosfa hefyd mae nifer o weithiau sydd erioed wedi cael eu harddangos, gan gynnwys grŵp o ffotograffau newydd eu caffael diolch i gefnogaeth hael y Gronfa Gelf.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cefnogi’r arddangosfa, a rhagor o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi yma yn fuan.

Digwyddiadau