Digwyddiadau

Digwyddiad: Datganiad ar yr Organ

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
28 Mehefin 2024, 13:00
Pris Tocyn am ddim i'w archebu o flaen llaw
Addasrwydd Oedolion

Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).

Organydd Richard Walker

Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 28 Mehefin, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.

Bydd organydd cyngherddau Richard Walker yn chwarae rhaglen 30 munud arbennig. 

Richard Walker yw Cyfarwyddwr Cerdd Cynorthwyol Eglwys St Chad, Amwythig, ac mae’n cyfeilio i’r rhan fwyaf o’r prif wasanaethau, yn trefnu 45 cyngerdd awr ginio bob blwyddyn, ac yn rhoi datganiadau ar yr organ. Mae hefyd yn chwarae’n gyson yn Eglwys Plwyf Llwydlo. Astudiodd Richard yr organ wrth lin David Willcocks, gan ennill diploma ARCO ac FRCO yn yr un flwyddyn – a’r ddwy gyda gwobr.

Mae wedi canolbwyntio yn bennaf ar ddysgu, yn gyntaf yn Academi Caeredin, cyn dod yn Gyfarwyddwr Cerdd yng Ngholegau Daniel Stewart a Melville yng Nghaeredin (1975 – 80), Ysgol Leys Caergrawnt (1980 – 85), ac Ysgol Harrow (1985 – 2005). Bu hefyd yn Organydd Cynorthwyol Eglwys Gadeiriol Esgobol y Santes Fair ac yn Organydd St. Johns, Stryd y Frenhines yng Nghaeredin.

Ar wahân i’r organ mae Richard yn chwarae’r piano mewn cerddoriaeth siambr a deuawdau, a’r bas dwbwl yng Ngherddorfeydd Llwydlo a’r Amwythig.

Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol. 

 Tocynnau     
 

 Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

Digwyddiadau