Digwyddiadau

Sgwrs: Tu ôl i'r Llenni: Trysorau cudd: diléit y casglwr cregyn môr

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
5 Medi 2024 , 2pm
Pris £8
Addasrwydd 11+

Mae casgliad o bron i 2 filiwn o gregyn yn cael ei gadw y tu ôl i'r llenni yn yr Amgueddfa. 

Mae gennym ni gregyn o bob lliw a llun, o'r prydferth i'r rhyfeddol, sydd wedi'u darganfod ym mron i bob cynefin a gwlad ar y Ddaear. 

Mae'r casgliad Cymreig hwn o bwys rhyngwladol, ac mae'n cael ei chwilio a'i ddefnyddio bob dydd mewn amrywiaeth annisgwyl o ffyrdd. 

Bydd yr ymweliad hwn yn mynd â chi i storfa cregyn Melvill-Tomlin, lle byddwch chi'n gallu trin a thrafod rhai o'r cregyn mwyaf anghyffredin, gweld rhywogaethau sydd newydd eu darganfod, dysgu am falwod prinnaf Prydain, a chlywed trwmped cragen hyd yn oed!

 

Tocynnau 

 

Gwybodaeth Bwysig 

  • Bydd y daith yn para tua 45 munud. Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.
  • Mae'r daith yn costio £8 y pen.
  • Bydd y daith yn cael ei chynnal ym mamiaith y curadur, sef Saesneg.
  • Oherwydd natur tu ôl i'r llenni'r daith, bydd rhai gofodau lle byddwch chi'n agos iawn at ymwelwyr eraill a'r curadur.
  • Allwn ni ddim rhoi ad-daliad ar gyfer tocynnau, a fyddwn ni ddim yn ad-dalu neu’n cyfnewid tocynnau i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr.

Cymerwch olwg ar yr holl ddigwyddiadau Tu ôl i'r Llenni...

Digwyddiadau