Digwyddiadau

Digwyddiad: Datganiad ar yr Organ

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
27 Medi 2024 , 13:00
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion

Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).

Organydd Stephen Moore

Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 27 Medi, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.

Stephen Moore yw'r Cyfarwyddwr Cerdd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf lle, ers 2016, mae wedi bod yn goruchwylio holl ddarpariaeth gerddorol adran brysur sy’n cyflawni saith gwasanaeth ar gân yr wythnos. Yn Llandaf, mae'n cyfarwyddo Corau'r Gadeirlan yn y rownd wythnosol o wasanaethau corawl, cyngherddau, darllediadau a theithiau. O dan ei gyfarwyddyd, mae’r côr wedi ymddangos yn fynych mewn darllediadau byw ar deledu a radio, a hynny'n fwyaf nodedig mewn gwasanaeth ym mhresenoldeb EF Brenin Charles III a’r Frenhines Camilla ym mis Medi 2022, a ddarlledwyd yn fyw ledled y byd. Mae Stephen hefyd wedi ymddangos ar y teledu yn rôl arweinydd neu organydd, a hynny'n fwyaf diweddar ar Songs of Praise Ddydd Sul y Pasg 2021 a Dydd Nadolig 2022. 

Cwblhaodd Stephen ei astudiaethau israddedig yng Ngholeg Cerdd y Drindod, lle roedd yr organ yn brif astudiaeth ganddo, a graddiodd yn 2008 gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn perfformio. Enillodd fedal y coleg am y marc uchaf yn ei flwyddyn ar gyfer astudiaethau allweddell, ynghyd â'r wobr am arwain. Tra oedd yn y Drindod, astudiodd gyda William WhiteheadColm Carey, ac enillodd Wobr Organ Cardnell ddwywaith am berfformiad rhagorol. Mae'n Gymrawd arobryn Coleg Brenhinol yr Organyddion ac yn Gymrawd Coleg y Drindod Llundain. 

Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol. 

Tocynnau          

Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

Digwyddiadau