Arddangosfa:Casgliadau Newydd: 'Y Dynamic' gan Sebastián Bruno

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

‘Roedd e’n llwyddiant diwylliannol ond yn fethiant ariannol.’  - Tony Flatman

Hanes papur newydd lleol mwyaf neilltuol Cymru, ei olygyddion Tony Flatman a Julian Meek, a’r gymuned maen nhw’n ei chynrychioli yw’r Dynamic, a hynny o safbwynt cyn-ffotograffydd staff y papur, Sebastián Bruno. 

Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf yr Abertillery and Ebbw Valleys Dynamic yn Abertyleri ym mis Mai 2015. Roedd ganddo gylchrediad o 5,000 o gopïau a chafodd ei gyhoeddi bob pythefnos am ddwy flynedd. Roedd oes fer ond bywiog y papur newydd yn cyd-daro â rhai o flynyddoedd mwyaf cythryblus hanes cyfoes Prydain, cyfnod dyfodiad newyddion ffug, gwleidyddiaeth cyni a Brexit. Argraffwyd y rhifyn olaf yn 2019.

 Mae’r arddangosfa hon yn adrodd hanes y papur newydd drwy ffotograffau, sain a fideo sy’n trochi ymwelwyr ym myd Tony a Julian. Y canolbwynt yw gosodwaith swyddfa’r Dynamic fel ag yr oedd yn rhif 17 Stryd Fawr, Abertyleri. Cafodd ei gaffael gan Amgueddfa Cymru ym mis Ebrill 2024.

Gwybodaeth

O 28 Medi 2024
Dod yn fuan
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

© Sebastiàn Bruno

Ymweld

Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau