Digwyddiad:Tu ôl i’r Llenni: Nadroedd, madarch a'r tylwyth teg – hud a lledrith ffosilau
Cyn bod pobl yn deall taw olion anifeiliaid a phlanhigion cynhanesyddol yw ffosilau, bydden nhw'n creu straeon rhyfeddol i'w hesbonio nhw. Roedd rhai pobl yn credu fod gan ffosilau bwerau hudol allai warchod eich cartref.
Ar y daith byddwch chi'n cael cip ar storfeydd ffosilau'r Amgueddfa, a chyfle i weld ffosilau oedd yn gallu gwarchod rhag mellt, nadroedd carreg, a sut oedd 'fairy loaves' yn helpu i fwydo'r teulu.
Gwybodaeth Bwysig
- Bydd y daith yn para tua 45 munud. Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.
Mae'r daith yn costio £8 y pen.
Bydd y daith yn cael ei chynnal ym mamiaith y curadur, sef Saesneg.
Oherwydd natur tu ôl i'r llenni'r daith, bydd rhai gofodau lle byddwch chi'n agos iawn at ymwelwyr eraill a'r curadur.
Allwn ni ddim rhoi ad-daliad ar gyfer tocynnau, a fyddwn ni ddim yn ad-dalu neu’n cyfnewid tocynnau i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr.
Gwybodaeth
Tocynnau
Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
---|---|---|
31 October 2024 | Sold Out |