Digwyddiad:Datganiad ar yr Organ
Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 29 Tachwedd, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.
Ganed David Geoffrey Thomas yn Llanelli ac astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, gan ennill gwobrau am ganu'r organ ac arwain, fel ei gilydd.
Mae'n organydd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ac yn gerddor proffesiynol llawrydd. Ac yntau'n sylfaenydd a Chyfarwyddwr Cantores Landavenses, grŵp lled-broffesiynol o gantorion, mae wedi arwain yng Nghadeirlannau Caerwrangon, Caerwysg, Caersallog, Ely, Wells, Truro a St Paul, yn ogystal ag yn Abaty Westminster.
Yn ogystal, mae David wedi cyfeilio i gorau ar yr organ a’r piano, a hynny ledled y DU ac yn Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Sbaen, Awstralia, Seland Newydd, Tsieina, yr Eidal, Awstria, Malta, Gwlad Belg a Sweden.
Bu David yn addysgu am flynyddoedd lawer yn Ysgol a Choleg Chweched Dosbarth Howell's, a bu'n diwtor yng Ngholeg Diwinyddol Mihangel Sant a Bwrdd Cysylltiedig yr Ysgolion Cerdd Brenhinol. Mae wedi gwneud ymchwil i hanes, repertoire, arferion perfformio ac arferion addysgu'r organ, ac wedi cyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion cerddoriaeth academaidd. Ef yw Cyn-lywydd Cymdeithas Organyddion De-ddwyrain Cymru a chyfeilydd Côr Polyffonig Caerdydd, ac mae galw mawr amdano i fod yn gyfeilydd ac yn organydd i gorau ac unawdwyr ledled De Cymru, ynghyd ag yn ddatgeiniad organ.
Mae wedi canu’r organ ar gyfer sawl recordiad cryno-ddisg, ac mae wedi darlledu ar raglenni di-ri ar radio a theledu ac mewn ffilmiau. Mae darlledu wedi chwarae rhan fawr ym mywyd David. Ar ôl dechrau ar ei yrfa ddarlledu yn rôl Cyflwynydd i'r BBC, mae wedi cynhyrchu a chyflwyno, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ei gyfres ei hun o raglenni ar gerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth opera, cerddoriaeth gorawl a cherddoriaeth 'canol y ffordd' oddi ar hynny.
Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol.
Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.
Gwybodaeth
Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd