Digwyddiad:Celf gyda'r hwyr: Sesiwn baentio yn yr Amgueddfa
Mae'r cynnig poblogaidd yn ôl!
Dewch gyda’ch ffrindiau, ewch i nôl diod wrth y bar, a dechreuwch baentio!
Mae’r profiad paentio ar y cyd unigryw hwn, ar ôl amser cau yn y Brif Neuadd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn gyfle rhy dda i'w fethu. Os ydych chi’n mwynhau paentio’n barod, neu am roi cynnig ar rywbeth newydd, mae hwn yn ddigwyddiad i bawb – does dim angen profiad i gymryd rhan. Dewch i ymlacio a dysgu sgiliau newydd ar yr un pryd. Dyma'r digwyddiad perffaith ar gyfer noswaith ganol wythnos i ffrindiau, cydweithwyr a chyplau. Dewch i ddatgloi eich doniau creadigol wrth baentio ar y cyd.
Pwnc: Lilis Dŵr Monet
I ddathlu ein casgliad byd-enwog o gelf argraffiadol, bydd digwyddiad paentio ar y cyd cynta 2025 yn canolbwyntio ar Lilis Dŵr Monet.
Dewch ar daith i Giverny 1906 i baentio eich dehongliad eich hun o'r gerddi dŵr enwog sydd nawr i'w gweld yma yng Nghaerdydd.
Yr artist lleol Rachel Rasmussen sy'n cynnal y digwyddiad. Bydd hi'n rhoi cyngor a chyfarwyddiadau wrth baentio gyda chi.
Gwybodaeth bwysig:
- Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu ac yn cael eu cynnwys ym mhris y tocyn.
- Diod wrth baentio. Bydd ein bar bach ar agor i chi o’r dechrau i’r diwedd. Nid yw diodydd wedi’u cynnwys ym mhris y tocyn.
- Mae hwn yn ddigwyddiad 18+ oed yn unig.
- Ni ellir ad-dalu tocynnau ac mae llefydd yn brin iawn. Bachwch eich tocynnau nawr!
- Mae’r tocyn yn cynnwys mynediad i’r oriel Argraffiadwyr i weld y gweithiau eu hunain.
- Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno a’i arwain yn iaith gyntaf yr artist, sef Saesneg.
Tocynnau
Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
---|---|---|
24 April 2025 | Sold Out | |
21 August 2025 | 19:00 | Gweld Tocynnau |