Digwyddiad:Parti paentio: Celf i'r teulu

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Mae'r cynnig poblogaidd yn ôl!  

Ydych chi'n chwilio am brofiad llawn hwyl ac addysgiadol yn yr Haf? Dewch i'r Amgueddfa! 

Os ydych chi’n mwynhau paentio’n barod, neu am roi cynnig ar rywbeth newydd dros y gwyliau, mae hwn yn ddigwyddiad y gall y teulu cyfan ei fwynhau gyda’i gilydd.  Dewch i ddatgloi eich doniau creadigol a rhoi eich cyffyrddiad unigryw chi ar ddehongli paentiad teuluol o gasgliad celf yr Amgueddfa Cymru.  

Mae’r parti paentio unigryw yn y Brif Neuadd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn gyfle rhy dda i'w fethu. Dewch i greu atgofion am oes. ⁠Mae croeso i bawb, felly dewch â'r teulu cyfan! (argymhelliad oed 6+). 

Topic: Y Mamoth a'i phlentyn 

Dewch i ddathlu cyrhaeddiad aelod newydd yr Amgueddfa! Dyma gyfle i beintio fersiwn eich hun o'r Mamoth a'i phlentyn, sef un o uchafbwyntiau ein harddangosfa Esblygiad Cymru.

Bydd cyfle i fod yn greadigol gyda thechnegau gwahanol megis eich dwylo a bysedd a defnyddio deunyddiau naturiol er mwyn creu campwaith eich hun i ysbrydoli'r cewri hynafol hyn!

Yr artist lleol Rachel Rasmussen sy'n cynnal y digwyddiad. Bydd hi'n rhoi cyngor a chyfarwyddiadau wrth baentio gyda chi. 

Gwybodaeth bwysig: 

  • Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu ac yn cael eu cynnwys ym mhris y tocyn.   
  • Bydd bwyty'r Amgueddfa ar agor tan 4.30pm.  Ewch i nôl paned ac ymuno yn yr hwyl.   
  • Mae hwn yn ddigwyddiad i'r teulu cyfan ac yn addas i bob oed a gallu (argymhelliad oed 6+). 
  • Rhaid i bob plentyn fod yng ngofal rhiant neu warcheidwad drwy gydol y digwyddiad.  Mae hwn yn ddigwyddiad i'r teulu cyfan, ac rydyn ni'n awgrymu'n gryf i'r oedolion gymryd rhan hefyd, a mwynhau gyda'ch gilydd.  
  • Ni ellir ad-dalu tocynnau ac mae llefydd yn brin iawn. Bachwch eich tocynnau nawr! 
  • Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno a’i arwain yn iaith gyntaf yr artist, sef Saesneg.  

 

Gwybodaeth

21 Awst 2025
Pris £13 y person
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Mwy o gynnwys

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau