Digwyddiad:Datganiad ar yr Organ - Jeffrey Howard

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 25 Gorffennaf, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.

Ganed Jeffrey Howard BEM yng Nghaerdydd ac astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd a’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Mae’n Gyfarwyddwr Cerdd yng Ngholeg Sant Ioan ac Eglwys Gadeiriol Fetropolitan Caerdydd. Mae ei waith cyfeilio yn cynnwys i Syr Bryn Terfel, Syr Willard White, Alfie Boe, a’r Fonesig Shirley Bassey. Fel trefnydd mae wedi gweithio gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol (RPO), Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl (RLPO), Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW), Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham (CBSO) a Cherddorfa Symffoni Bwdapest, ac mae’n chwarae fel unawdydd allweddell gyda Karl Jenkins. Fel Hyfforddwr Llais mae wedi gweithio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Academi Llais Ryngwladol Cymru ac fel Tiwtor Llais ym Mhrifysgolion Caerdydd a Bryste. Ymhlith ei waith arwain corau mae Côr Meibion Treorci, Côr Cambrensis, Côr Mawl Dewi Sant a Chôr yr Eisteddfod Genedlaethol. 

Ym 1996, Jeff oedd Artist Preswyl Gwadd Eglwys Fethodistaidd First United, Lubbock, Texas ac ymhlith ei waith arall gyda’r organ mae’r Royal Albert Hall, Royal Festival Hall, Eglwys Gadeiriol St Paul, Notre Dame de Paris ac Eglwys Gadeiriol Genedlaethol Washington. Fel trefnydd ac ysgrifennwr sgôr i gerddorfeydd, mae Jeff yn aml yn gweithio gyda BBC NOW, Songs of Praise, S4C, Bryn Terfel, Shan Cothi a Wynne Evans. Fel trefnydd Only Men Aloud!, bu ar daith o amgylch gwledydd Prydain ddwywaith gan ryddhau dwy albwm ar label Universal – enillodd ‘Band of Brothers’ wobr y Classical Brit Awards yn 2010. Mae Jeff wedi derbyn Gwobr Joseph Parry am wasanaethau i gerddoriaeth yng Nghymru, Cydymaith yr Academi Gerdd Frenhinol, enillodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2019 ac fe’i derbyniwyd i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2023.

Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol. 

TOCYNNAU

Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

Gwybodaeth

25 Gorffennaf 2025, 13:00
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion

Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau