Arddangosfa:unCHunASunEDunLOunSSunES - Gan Sean Edwards
Sut ydyn ni'n prosesu atgofion, dosbarth, a'r disgwyliadau arnon ni – yn enwedig pan fydd cymaint heb ei ddweud?
Dyma ddangosiad o waith a brynwyd gan Amgueddfa Cymru o arddangosfa Undo Things Done – pan oedd Sean Edwards yn cynrychioli Cymru yn Biennale Fenis 2019.
Wedi'i chyflwyno mewn haenau dros waith mwy diweddar Chased Losses, mae'r gosodwaith newydd hwn yn cyfeirio'n aml at atgofion plentyndod, perthynas deuluol, a theimlad cyffredin o 'beidio disgwyl llawer'.
Mae'n mynd i'r afael â'r themâu hyn drwy gyfrwng cerflunwaith, deunyddiau, paentiadau a phrintiau. Motiff parhaus yw'r llythrennau 'un' a gynnwyd o deitl papur newydd The Sun sy'n clymu'r gweithiau ynghyd ac yn cyfleu'r hyn mae'r artist yn ei alw yn atal dweud cymdeithasol, yn symbol o ansicrwydd dysgu byw i bobol dosbarth gweithiol. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith – a grëwyd o ddarnau neu haenau delweddau – yn cyfleu natur gylchol y problemau cymdeithasol a phersonol sydd heb eu datrys ac yn ymateb i arteffactau'r ymddygiad a'r atgofion rydyn ni'n eu gadael yn ein sgil.
Sean Edwards
Ganwyd Sean Edwards yng Nghaerdydd yn 1980 ac fe astudiodd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ac Ysgol Gelf Gain Slade. Mae wedi arddangos ei waith ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys Chapter yng Nghaerdydd, Spike Island ym Mryste, Temple Bar yn Nulyn a chynrychioli Cymru ym 58fed Biennale Fenis. Yn 2020 derbyniodd Fwrsariaeth Gwobr Turner. Mae bellach yn Gyfarwyddwr Rhaglen Celf Gain a Ffotograffiaeth Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ac yn cael ei gynrychioli gan Oriel Tanya Leighton, Berlin.
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
Oriau Agor y Gaeaf: O ddydd Mawrth 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 13 Chwefror 2026, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm.
Orielau yn cau am 3.34pm.
Ar agor chwech diwrnod yr wythnos: dydd Mawrth i ddydd Sul. Ar gau dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc.
Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
Parcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.
Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadLleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd