Digwyddiad:Amser Stori gyda Babis Bach Babies

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Dewch i ymuno âg antur y wrach caredig a'i chath a ffeindiwch mas os oes yn wirlle ar y brwsh?’ 

Sesiwn ddwyieithog gyda stori rhyngweithiol, cerddoriaeth telyn fyw, gwisgo lan, canu a chwarae offerynnau. Mae'r sesiwn wedi'i anelu at fabis a phlant lan at 5 mlwydd oed ond mae plant hŷn (ac oedolion!) yn mwynhau hefyd.

Mae Babis Bach Babies yn cyfuno stori ryngweithiol gyda cherddoriaeth fyw gan gerddorion proffesiynol. Mae’r sesiynau yn cefnogi addysg y blynyddoedd cynnar drwy annog datblygiad iaith yn Gymraeg a Saesneg, yn cyflwyno themâu perthnasol drwy symudiad a chân, ac yn meithrin hyder drwy gymryd rhan. 

Felly dere gyda ni am Galan Gaeaf am antur ni wnewch chi byth anghofio! 

 

Gwybodaeth Bwysig: 

Mae’r sesiwn yn addas i fabis o unrhyw oed hyd at 5.  

Tocynnau: £12.50 ar gyfer un oedolyn ac un plentyn. £6 ar gyfer plant/oedolion ychwanegol. Gallwch brynu tocynnau ychwanegol unwaith bydd y prif docyn yn y fasged siopa ar-lein 

Nifer cyfyngedig o docynnau. Ni ellir cynnig ad-dalidau yn anffodus. 

 

 

Gwybodaeth

31 Hydref 2025, 10:30yb, 12.30yp a 2.30yp
Pris £12.50 (tocyn 1 oedolyn a 1 plentyn); £6.00 (am bob oedolyn/plentyn ychwanegol)
Addasrwydd Teuluoedd
Archebu lle Nawr ar werth!
Golygfa hudolus gyda gwrach a’i chath yn hedfan drwy awyr y nos wedi’i llenwi â sêr.
Logo Babis Bach Babies - amlinell o ben plentyn yn du a gwyn
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau