Digwyddiad:Datganiad ar yr Organ - Robin Baggs
Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 31 October, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.
Astudiodd Robin Baggs yr organ gyda Garth Benson, Peter le Huray a Lionel Rogg (Geneva). Darllenodd gerddoriaeth yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt, a chwblhaodd astudiaethau ôl-raddedig yno mewn perfformio allweddellau, palaeograffeg a beirniadaeth. Yn ogystal â’i waith cyngherddau gartref, mae wedi teithio i ddeuddeg o wledydd yn Ewrop â datganiadau, ac arweiniodd ei arbenigedd yng ngherddoriaeth organ Swabia ac Awstria yn y ddeunawfed ganrif iddo roi cyngherddau blynyddol yno am fwy na degawd. Mae hefyd wedi gweithio’n helaeth fel awdur a beirniad i’r ‘Musical Times’ a chyhoeddiadau eraill, ac mae ar hyn o bryd yn Gyfeilydd i nifer o Gymdeithasau Corawl yn Swydd Gaerloyw a Swydd Rydychen. Ar ôl 35 mlynedd fel Organydd ac yna fel Cyfarwyddwr Cerdd yn Ysgol Westonbirt, mae Robin bellach yn rhannu ei amser rhwng dysgu preifat, cyfeilio a gwaith cyngerdd.
Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol.
Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.
Gwybodaeth
Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd