Sgwrs:Tu ôl i’r Llenni: Darganfyddiadau anhygoel o’r Five Mile Lane
Dewch i edrych tu ôl i'r llenni i weld rhai o'r darganfyddiadau diddorol o'r Five Mile Lane, ger y Barri, gyda'r curadur, Dai Hill.
Mae hirhoedledd anhygoel y safle a'i amrywiaeth o ddefnydd wedi cynhyrchu trysorau rhyfeddol a dirgelion cyfareddol. Byddwn yn edrych ar wrthrychau sy’n amrywio o safleoedd claddu Oes yr Efydd, i ffermydd Oes yr Haearn, Filas Rhufeinig ac i fynwent Ganoloesol Gynnar nodedig iawn. Byddwn hefyd yn archwilio'r storfeydd archaeolegol ac yn gweld gwerth casgliadau fel hyn i'w defnyddio mewn ymchwil yn y dyfodol.
Gwybodaeth Bwysig
- Bydd y daith yn para tua 60 munud. Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.
- Cynhelir y sgwrs hon yn yr ystafell astudio arteffactau Archaeolegol.
- Mae'r daith yn costio £8 y pen.
- Bydd y daith yn cael ei chynnal ym mamiaith y curadur, sef Saesneg.
- Oherwydd natur tu ôl i'r llenni'r daith, bydd rhai gofodau lle byddwch chi'n agos iawn at ymwelwyr eraill a'r curadur.
- Allwn ni ddim rhoi ad-daliad ar gyfer tocynnau, a fyddwn ni ddim yn ad-dalu neu’n cyfnewid tocynnau i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd