Digwyddiad:Dyfal Droi y Garreg: Cylch Darllen
Labeli, hunaniaeth, dad-drefedigaethu, hygyrchedd: mae yna lawer o wahanol arlliwiau i'r gweithiau celf a'r prosesau sy'n gysylltiedig â Dyfal Droi y Garreg. Ymunwch â ni i ddarllen a thrafod rhai o themâu'r project, yn rhan o gylch darllen tair rhan am ddim.
Bydd pob cylch darllen yn cael ei guradu gan artist, ymgyrchydd neu ddamcaniaethwr y mae ei waith ei hun yn cyd-fynd â themâu Dyfal Droi y Garreg. Byddant yn dewis testunau (rhyddiaith, barddoniaeth, theori, cerddoriaeth), y byddwn yn eu trafod a'u hystyried gyda'n gilydd. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch, dim ond chwilfrydedd. Ymunwch â ni!
Bydd sesiwn dydd Sul 2 Tachwedd yn cael ei chyd-guradu gan Taey Iohe, trwy lens eco-crip a ffeministiaeth gwiyr. Mae'r artist a’r awdur Taey Iohe yn eich gwahodd i ymuno â chylch o ddarllenwyr i ymgolli yng ngeiriau Vandana Shigh, Jackie Wang, a June Jordan er mwyn ystyried hanesion anorffenedig ac ymwneud gyda meddwl agored i gategoreiddio amgueddfaol a realiti byd-eang colled, salwch a chwymp ecolegol.
Bydd y sesiwn ar ddydd Sul 16 Tachwedd, Cyffwrdd Symud Dweud, yn cael ei chyd-guradu gan Kelly Lloyd, sydd wedi creu gwaith gyda Sophie sy'n rhan o'r arddangosfa. Gyda Kelly a Sophie, byddwn yn darllen ac yn meddwl gyda'n gilydd am naratif fel strategaeth sy'n dangos y cyfyngiadau ar gasgliadau hanesyddol. Byddwn yn darllen darnau o waith Saidiya Hartman a Katrina Palmer, a thestun Katherine Agyemaa Agard gydag Esyllt Angharad Lewis, sy'n rhan o arddangosfa Dyfal Droi y Garreg.
Bydd sesiwn dydd Sul 25 Ionawr, Rhannu a Gofalu, yn cael ei chyd-guradu gan Nat Raha, bardd ac ysgolhaig-actifydd. Beth all bod yn agored â'n gilydd a chyd-fodoli mewn cymunedau gwleidyddol ei wneud? Gyda'n gilydd byddwn yn darllen darnau o Wages Due Lesbians, Lola Olufemi a Fred Moten a Stefano Harney ac yn meddwl am feddiant, rhannu a sut i ofalu am wrthrychau a'n gilydd.
Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, e-bostiwch Kate Breeze safbwyntiau@amgueddfacymru.ac.uk i drefnu cymorth – mae cyllideb benodol ar gael ar gyfer mynediad, a allai gynnwys teithio, gofalwyr, cyfieithu (gan gynnwys BSL), neu archebu cadeiriau olwyn ac ati. Mae'n bosibl y bydd angen i ni drafod eich anghenion mynediad er mwyn deall beth sy'n bosibl, ond ni fyddwn yn gofyn am 'dystiolaeth' ohonynt, rydym yn deall mai chi sy'n gwybod beth sydd ei angen arnoch i ymuno â ni.
Gwybodaeth
Lleoliadau - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (Oriel 14)
Mae Sophie Mak-Schram yn ymgysylltu ag eraill mewn gwaith penodol i le mewn perthynas â grym, cydberchnogaeth, gwybodaeth a'r dyfodol. Mae'n gweithio gydag eraill, o ran ei dull a'i ffurf, ac yn tynnu ar arferion profiadol, artistig, dad-drefedigaethu ac ar y cyd er mwyn tynnu pobl at ei gilydd, ail-ddychmygu a dyfeisio. Mae Sophie yn tynnu ar ei phrofiadau personol a chyffredin o wahaniaethau diwylliannol, gwladychiaeth, hil a rhyw.
Mae'n aml yn defnyddio 'offeryn' fel trosiad barddonol a gwrthrych ymarferol i fynd i'r afael â beth rydyn ni'n ei wybod a sut, a pha ran ydyn ni'n ei chwarae yng nghysyniad pŵer a'r syniad o berthyn. Mae Sophie'n dod â phobl ynghyd, yn hwyluso, yn ysgrifennu, yn darllen, yn creu gwrthrychau a'u defnyddio i ddeall neu wrando.
Artist, awdur a gwrandäwr yw Taey Iohe, a anwyd ger afon Han ac sydd bellach yn byw rhwng afon Lea ac afon Ching. Mae eu gwaith yn llifo a phontio rhwng barddoniaeth, sain, ffilm, a phractis cymdeithasol, a'r cyfan wedi'i wreiddio mewn ymdeimlad eco-crip o berthyn. Maen nhw ar hyn o bryd yn artist-ymchwilydd gyda Making Time yn Artangel, yn edrych ar wahanol fathau o ollyngiad – o'r corff, o hanes, o ecoleg glwyfedig.
Mae Kelly Lloyd yn artist ac addysgwr trawsddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar faterion cynrychiolaeth a chynhyrchu gwybodaeth ac yn blaenoriaethu ymchwil gydweithredol sy'n wynebu'r cyhoedd. Mae'n creu gosodiadau sy'n cyfuno testun, murluniau a gwrthrychau arwahanol, ac yn ysgrifennu traethodau y mae hi'n eu perfformio o bryd i'w gilydd. Yn y gosodiadau, paentiadau, cerfluniau, traethodau a darlithoedd hyn mae Lloyd yn ceisio creu perthnasoedd ffurf/cynnwys abswrd. Yn ddiweddar, mae wedi cynnal arddangosfeydd unigol yn Royal Academy Schools (Llundain), Crybaby (Berlin), Bill’s Auto (Chicago), Demo Room (Aarhus) a Dirty House (Llundain) – enillodd Wobr Art Licks Workweek ar gyfer yr arddangosfa hon.
Mae Dr Nat Raha yn actifydd-ysgolhaig a bardd, y mae ei gwaith yn ystyried arferion rhyddhau o safbwynt cwiyr, trawsffeministaidd a gwrth-drefedigaethol; ddoe, heddiw ac yn y dyfodol. Mae hi wedi cyhoeddi pedair cyfrol o gerddi, a'r diweddaraf yw apparitions (nines) (Nightboat Books, 2024). Mae Nat hefyd yn gyd-awdur Trans Femme Futures: Abolitionist Ethics for Transfeminist Worlds (Pluto Press, 2024) gyda Mijke van der Drift, ac yn gyd-olygydd y zine, Radical Transfeminism. Mae hi'n dysgu yng Ngholeg Celf Glasgow.
Gwybodaeth
Ymweld
Mynediad
Am Ddim
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Oriau Agor
Oriau Agor y Gaeaf: O ddydd Mawrth 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 13 Chwefror 2026, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm.
Orielau yn cau am 3.34pm.
Ar agor chwech diwrnod yr wythnos: dydd Mawrth i ddydd Sul. Ar gau dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc.
Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
Parcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.
Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
Ystafell aml-ffydd
Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.
Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.
Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.
Lleoliad
Map safle
Map SafleMynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd