Sgwrs:Tu ôl i'r llenni gyda'r Cynllun Henebion Cludadwy: Hanes ar flaenau dy fysedd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Cynllun Henebion Cludadwy (PAS) Cymru a thimau curadurol Amgueddfa Cymru yn helpu i adnabod a chofnodi gwrthrychau archaeolegol a ddarganfuwyd gan y cyhoedd, trwy ddefnyddio datgelyddion metel gan amlaf. 

Hyd yn hyn, mae dros 100,000 o arteffactau wedi'u cofnodi yng Nghymru ac maen nhw wedi arwain at rai o ddarganfyddiadau archaeolegol pwysicaf y mileniwm. Ar y daith hon tu ôl i'r llenni, byddwch yn cwrdd â'r Swyddogion Darganfyddiadau  ac yn cael cipolwg ar rai o'r arteffactau mwyaf newydd ac yn dysgu sut mae canfyddiadau cyhoeddus yn cael eu hadnabod a'u hymchwilio. 

Byddwch chi hefyd yn clywed straeon am wrthrychau ddaeth i'r fei ar ddamwain  ac yn mwynhau cipolwg unigryw ar ganfyddiadau archaeolegol ysbrydoledig o gasgliad Amgueddfa Cymru sydd ddim fel arfer i'w gweld yn gyhoeddus. 

Byddwch chi hyd yn oed yn cael cyfle i drin a thrafod gwrthrychau archaeolegol go iawn y mae aelodau'r cyhoedd wedi'u rhoi i ni a darganfod y straeon anhygoel maen nhw'n eu datgelu am orffennol Cymru, o Oes y Cerrig i gyfnod y Tuduriaid.

Gwybodaeth Bwysig

  • Bydd y daith yn para tua 60 munud. Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.Caiff y digwyddiad ei gynnal yn Oriel Darganfod Clore.
  • Mae'r daith yn costio £8 y pen.
  • Bydd y daith yn cael ei chynnal ym mamiaith y curadur, sef Saesneg.
  • Allwn ni ddim rhoi ad-daliad ar gyfer tocynnau, a fyddwn ni ddim yn ad-dalu neu’n cyfnewid tocynnau i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr.

Gwybodaeth

27 Ionawr 2026, 2pm
Pris £8
Addasrwydd 10+
PAS
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
27 Ionawr 2026 14:00 Gweld Tocynnau

Ymweld

Oriau Agor

Oriau Agor y Gaeaf: O ddydd Mawrth 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 13 Chwefror 2026, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm.

Orielau yn cau am 3.34pm.

Ar agor chwech diwrnod yr wythnos: dydd Mawrth i ddydd Sul. Ar gau dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc. 

Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.

Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.

Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau