Sgwrs:Tu ôl i’r Llenni: Cadwraeth Celc o’r Ganrif 1af OC Rhan 3
Yr ail mewn cyfres o ymweliadau â’r Labordy Cadwraeth Archaeoleg i weld y gwaith diweddaraf ar y celc o lestri Oes Haearn a Rhufeinig o’r ganrif gyntaf OC. Cafodd y celc ei ganfod yn sir Fynwy, a’i godi fel un darn o bridd a’i gludo i Amgueddfa Cymru i’w astudio yn y labordy.
Cyfle i glywed am yr wybodaeth ddiweddaraf sydd wedi’i datgelu gan y darnau bach o grochan, bwced a thancardiau, a dysgu sut mae ein microsgop digidol newydd yn ein helpu i ddod o hyd i’r cliwiau lleiaf un!
- Gwybodaeth Bwysig
- Bydd y daith yn para tua 60 munud. Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.
- Cynhelir y sgwrs hon yn y Labordy Cadwraeth Archaeolegol. Rhaid i bawb wisgo esgidiau caeëdig yn y labordy (dim sandalau).
- Mae'r daith yn costio £8 y pen.
- Bydd y daith yn cael ei chynnal ym mamiaith y curadur, sef Saesneg.
- Oherwydd natur tu ôl i'r llenni'r daith, bydd rhai gofodau lle byddwch chi'n agos iawn at ymwelwyr eraill a'r curadur.
- Allwn ni ddim rhoi ad-daliad ar gyfer tocynnau, a fyddwn ni ddim yn ad-dalu neu’n cyfnewid tocynnau i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr.
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 10 Mawrth 2026 | 14:00 | Gweld Tocynnau |