Digwyddiadau

Digwyddiad: Cyngherddau Coffi Caerdydd 2012-13

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
Pris Tocynnau o flaen llaw: Oedolion £8/Gostyngiad £6 (yn gynnwys tâl trafod). Mae nifer fach o docynnau ar gael yn yr Amgueddfa ar y diwrnod £10 arian parod neu siec
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Tocynnau ar gael o'n Siop Ar-lein neu drwy y Theatr Newydd: (029) 2087 8889

Darlithfa Reardon Smith

Triawd Erato Piano

Pedwarawd Dante

Pedwarawd Brodowski

Bore Sul Perffaith

Cyngherddau Coffi Caerdydd yn Theatr Reardon Smith (11.30am)

Ymunwch â ni ar fore Sul am gyngerdd cerddoriaeth siambr, gyda gwydryn o sieri, sudd neu goffi i ddilyn.

Beth am fanteisio ar ostyngiad o 10% ar ginio dydd Sul blasus ym Mwyty Oriel?

 

10 Chwefror 2013 -

Triawd Erato Piano

10 Mawrth 2013 -

Di Xiao (Piano)

14 Ebrill 2013 -

Gabrielle Painter (Feiolin) Evgenia Startseva (Piano)

19 Mai 2013 -

Ensemble Farthingale

 

Diolch i haelioni Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Siambr CAVATINA, mae lle am ddim i bawb o 8-25 oed mewn addysg lawn amser, heblaw am gyngherddau Chwerfror a Mawrth.

Cadwch lygad am gyfres newydd sbon o berfformiadau gan gerddorion ifanc yn orielau celf yr Amgueddfa yn y prynhawn wedi Cyngherddau Coffi Caerdydd.

Rydyn ni’n falch o gael gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerddoriaeth Rhondda Cynon Taf i roi cyfle i gerddorion ifanc berfformio yn yr Amgueddfa ar yr un diwrnod â Chyngherddau Coffi Caerdydd.

Datblygir Cyngherddau Coffi Caerdydd mewn partneriaeth â CwpanAur gyda chymorth Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Siambr CAVATINA, Cymdeithas Gwestywyr Caerdydd a DHB Ltd.



 

 

Digwyddiadau