Hygyrchedd – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn hygyrch i’n hymwelwyr er mwyn sicrhau bod y nifer ehangaf o bobl yn gallu mwynhau ein hamgueddfa, ein casgliadau a’n harddangosfeydd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau hygyrch a’r adnoddau ar draws y safle isod.

Mae mapiau o’r Amgueddfa ar gael wrth y Dderbynfa yn y brif neuadd. Gallwch chi lawrlwytho map cyn eich ymweliad.

Mae’r Amgueddfa am ddim i bawb. Efallai bydd tâl yn cael ei godi am rai arddangosfeydd a gweithgareddau. Gallwch chi archebu tocynnau wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Datganiad hygyrchedd ein gwefan

Rydyn ni’n falch o fod yr amgueddfa gyntaf i ddod yn aelod o’r cynllun Mynediad Cenedlaethol, sef Hynt. P’un a ydych chi’n unigolyn neu’n sefydliad, gallwch chi gael tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion ar gyfer rhai o’n digwyddiadau a’n harddangosfeydd. 

Mae Hynt yn fenter Cyngor Celfyddydau Cymru a reolir gan Greu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru gallwch chi wneud cais i fod yn aelod ar wefan Hynt

Archebu tocyn gyda cherdyn Hynt

Pan fyddwch chi’n archebu eich tocyn gyda cherdyn Hynt, byddwn ni’n gofyn am eich rhif cyfeirnod Hynt unigryw. Gallwch chi archebu eich tocynnau gyda ni yn y ffyrdd canlynol:

  • Wyneb yn wyneb yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – bydd ein Cynorthwywyr Amgueddfa cyfeillgar wrth y Dderbynfa yn hapus i’ch helpu chi.
  • Neu ar-lein – cliciwch ar y ddolen hon i ddechrau arni. Os ydych chi wedi archebu gyda ni ar-lein gan ddefnyddio rhif cod bar Hynt dilys, bydd eich cyfrif Hynt yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif Amgueddfa Cymru er eich hwylustod yn y dyfodol. Sylwch y gallai gymryd hyd at 24 awr i’ch aelodaeth Hynt gael ei hychwanegu at eich cyfrif ar-lein. 

Bydd tocynnau’n cael eu rhoi i ddeiliad y cerdyn, a bydd angen iddo gyflwyno ei gerdyn Hynt ffotograffig ym mhob arddangosfa neu ddigwyddiad y bydd yn ei fynychu. Bydd nifer y tocynnau Hynt sydd ar gael i'w harchebu ar-lein yn gyfyngedig, ac yn seiliedig ar y nifer a osodwyd gan Hynt yn ystod y broses ymgeisio. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dewis y nifer briodol o docynnau ar gyfer holl aelodau eich grŵp.

Er mwyn eich helpu chi i gynllunio eich ymweliad, cymerwch gip ar ein stori weledol. Mae’n cynnwys ffotograffau a gwybodaeth i ddangos beth allwch chi ei ddisgwyl o’ch ymweliad â’r Amgueddfa.

Mynedfa ac allanfa’r Amgueddfa

Mae prif fynedfa ac allanfa’r Amgueddfa ar Heol Gerddi’r Orsedd. Mae 16 o risiau gyda chanllawiau, neu mae llwybr hygyrch o flaen yr adeilad. Byddwch chi ar lefel dau pan fyddwch chi’n cyrraedd yr Amgueddfa.

Parcio hygyrch

Mae pedwar lle parcio hygyrch ar gael yng nghefn y Maes Parcio Ymwelwyr, oddi ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio am ddim i ddeiliaid bathodyn glas. Defnyddiwch yr intercom wrth allanfa’r maes parcio i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae parcio hygyrch ar gael o flaen yr Amgueddfa hefyd, ar Heol Gerddi’r Orsedd. 

Adegau Tawel 

Gall yr Amgueddfa fod yn brysur iawn ac yn swnllyd weithiau. Mae gennym ni nifer gyfyngedig o amddiffynwyr clustiau ar gyfer oedolion a phlant. Os hoffech chi gael benthyg y rhain yn ystod eich ymweliad, gofynnwch wrth y Dderbynfa.

Yr adeg dawelaf i ymweld â’r Amgueddfa yw 3pm ymlaen, fel arfer. Mae ein holl orielau yn cau am 4.45pm ac mae’r Amgueddfa yn cau am 5pm.

Ardaloedd tawel

Ein horielau celf yw’r ardaloedd tawelaf yn yr Amgueddfa.

Goleuadau a thymheredd

Mae’r goleuadau yn newid drwy rai o Orielau’r Gwyddorau Naturiol, gan amrywio o lefelau golau isel i sbotoleuadau cryf, ond mae’r holl lwybrau cerdded, paneli testun ac arddangosiadau wedi’u goleuo’n glir.

Mae’r tymheredd yn amrywio wrth i chi symud trwy’r Amgueddfa ac mae rhai orielau a gofodau’n eithaf oer. Efallai hoffech chi ddod â dilledyn ychwanegol gyda chi i’w wisgo yn yr ardaloedd hyn.

Llawr anwastad

Sylwch fod lefel y llawr yn mynd i fyny ac i lawr yn Oriel Esblygiad Cymru drwyddi draw. Mae hyn yn fwriadol. Mae’r pantiau yn y llawr yn cynrychioli’r adegau pan oedd Cymru o dan y môr, tra bod y rhannau uwch yn cynrychioli’r adegau pan oedd Cymru uwchben lefel y môr. Mae llawr synhwyrus mewn rhai rhannau o’r oriel hon. Byddwch yn ofalus yn yr ardaloedd hyn. 

Benthyg cadair olwyn

Mae pedair cadair olwyn a chwe ffon eistedd ar gael i’w benthyg am ddim ar gyfer eich ymweliad. Mae’r rhain ar gael i’w casglu o’r Dderbynfa ar gais a’u dychwelyd yno, ac maen nhw’n cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Yn anffodus, allwn ni ddim darparu cymorth staff o amgylch yr Amgueddfa ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Allwch chi ddim mynd â chadeiriau olwyn allan o’r Amgueddfa.

Sgwteri symudedd

Rydyn ni’n croesawu sgwteri symudedd a gallwch chi eu defnyddio yn yr Amgueddfa.

Clirio’r safle mewn argyfwng 

Mae’n annhebygol y bydd larwm yn canu yn ystod eich ymweliad. Os bydd un yn canu, peidiwch â phoeni – dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau gan aelodau staff, a fydd yn eich tywys chi i’r allanfa ddiogel agosaf

Lifft a mynediad i’r orielau 

Mae’r rhan fwyaf o’r lifftiau yn yr Amgueddfa yn addas i gadeiriau olwyn a sgwteri symudedd ac maen nhw’n defnyddio cyhoeddiadau sain. I weld lleoliadau’r holl lifftiau, edrychwch ar ein map o’r Amgueddfa. Gallwch chi gyrraedd y rhan fwyaf o’r orielau eich hun, ond rhaid i Gynorthwy-ydd Oriel weithio lifftiau i rai orielau am resymau diogelwch. Mae arwyddion sy’n nodi ble mae pob lifft a sut mae’n gweithio. Bydd staff yr Amgueddfa wrth law i helpu.

Lefel un

Bwyty Oriel

Toiledau hygyrch

Lleoedd Newid

Ystafelloedd Cyfarfod (Archebwch y rhain o flaen llaw) 0300 111 2 333

Lefel dau – Y brif fynedfa

Siop yr Amgueddfa

Derbynfa

Oriel Esblygiad Cymru

Orielau Hanes Natur

Siop Goffi

Gofod addysg

Lefel tri

Orielau’r Gwyddorau Naturiol (yn Adain Orllewinol yr Amgueddfa yn unig)

Lefel pedwar

Orielau Celf – Celf Hanesyddol, Celf Argraffiadol a Modern a Chelf Gyfoes

Toiledau Hygyrch 

Mae toiledau hygyrch ar gael ym Mwyty Oriel ar lefel un. Mae gan yr holl doiledau hygyrch larymau cortyn tynnu. Cyfeiriwch at y map neu gofynnwch i aelod o staff.

Cyfleusterau newid cewynnau 

Mae cyfleusterau newid cewynnau ac ystafell bwydo ar y fron i’r sawl sydd eisiau preifatrwydd ar gael ym Mwyty Oriel. Mae croeso i chi fwydo ar y fron unrhyw le yn yr Amgueddfa.

Lleoedd Newid 

Yn ogystal â’n toiledau hygyrch, mae gennym ni gyfleuster Lleoedd Newid ar lefel un. Mae ein Lle Newid yn cynnwys offer codi a gwely y mae modd ei addasu. Gallwch chi gael mynediad i’r toiled trwy fenthyg allwedd Radar o’r Dderbynfa, a’i dychwelyd ar ôl ei defnyddio.

Dewch o hyd i Leoedd Newid eraill Toiledau Lleoedd Newid (changing-places.org)

Seddi

Mae rhai seddi mewn orielau penodol, arddangosfeydd arbennig, gofodau cyhoeddus, caffis a’r Bwyty. Mae’r Bwyty ar agor ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau ysgol.

Meinciau yw’r rhan fwyaf o’n seddi yn yr orielau.

Mae croeso i chi ddefnyddio ffyn cerdded neu stolion plygu â sedd, cyn belled â bod gorchuddion rwber ar y gwaelod.

Mae sawl stôl gludadwy ar gael mewn amrywiaeth o wahanol orielau. Gofynnwch i aelod o staff yn yr orielau ble ydyn nhw. Dychwelwch y stolion plygu i aelod o staff wrth adael yr orielau.

Seiniau Cyfoethog 

Byddwch chi’n clywed rhai seiniau wrth i chi fynd o amgylch oriel Esblygiad Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys dwy sgrin fawr sy’n chwarae ffilmiau gyda sain ar ddechrau llwybr yr arddangosfa. Tua hanner ffordd ar lwybr yr arddangosfa, byddwch chi’n ysgogi seiniau anifeiliaid awtomatig wrth i chi fynd heibio’r mamoth a’r udfilod. Mae’r rhain wedi’u hamlygu ar ein map o’r safle.

Cŵn gwasanaeth 

Rydyn ni’n deall y bydd angen i rai o’n hymwelwyr gael cymorth ci gwasanaeth ac rydyn ni’n falch o groesawu cŵn gwasanaeth sydd wedi’u hyfforddi’n briodol. Dylai cŵn gwasanaeth gael eu goruchwylio a’u cadw dan eich rheolaeth drwy gydol eich ymweliad, gan aros ar dennyn a gwisgo’r tabard neu’r harnais priodol, yn ddelfrydol. Gofynnwch i aelod o staff eich cyfeirio at y toiled/ardal mynd i’r toiled agosaf. Mae dŵr yfed ar gael ar gais o’r siop goffi.

Dolenni Sain

Mae dolenni sain wedi’u darparu yn oriel Esblygiad Cymru, y Dderbynfa, y siop, cownteri’r bwyty a’r siop goffi ac yn Narlithfa Reardon Smith. Mae dolen sain cludadwy ar gael i’w defnyddio yn yr ystafelloedd cyfarfod ac addysg. Mae’r holl ddolenni sain yn gweithredu ar y gosodiad ‘T’. Gosodwch eich cymorth clyw i’w actifadu.

Canllaw Print Bras

Mae canllaw print bras ar gael yn ein harddangosfa dros dro, Drych ar yr Hunlun.

Teithiau sain ddisgrifiad

Gallwn ni gynnig teithiau Sain Ddisgrifiad am ddim a chymorth tywys i ymwelwyr unigol. Gweler y dudalen hon am fanylion Teithiau Sain Ddisgrifiad (amgueddfa.cymru)

Digwyddiadau a Gwasanaethau Cyfieithu Iaith Arwyddion Prydain 

I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau â Chyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain, chwiliwch ar ein tudalen Digwyddiadau.

Bydd pob digwyddiad â Chyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei gyflwyno gan gyfieithwyr ar y pryd cwbl gymwysedig.

Digwyddiadau yn Narlithfa Reardon Smith

Mae Darlithfa Reardon Smith yn cynnwys platfform gwylio â chwe lle dynodedig ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Mae mynediad i’r Ddarlithfa o gefn y Maes Parcio Ymwelwyr neu drwy lwybr mynediad gwastad o Blas y Parc. Does dim mynediad uniongyrchol o’r Ddarlithfa i’r Amgueddfa.