Ailagor yr Amgueddfa
Cwestiynau Cyffredin
Pam fod rhai o’r orielau a arddangosfeydd ar gau?
Ein blaenoriaeth bennaf yw diogelwch staff ac ymwelwyr, ac rydym wedi cynnal asesiadau risg yn ein hamgueddfeydd i sicrhau eu bod yn medru ailagor gan gadw at reoliadau cadw pellter cymdeithasol a glanweithdra. Mewn rhai achosion (megis arddangosiadau rhyngweithiol) teimlwyd na fyddai modd sicrhau diogelwch staff ac ymwelwyr fyddai yn eu defnyddio. Penderfynwyd felly i beidio cynnwys rhai arddangosiadau yn y rhaglen ailagor.
Fyddwch chi ddim yn gallu ymweld â rhai o’r orielau celf am y tro wrth i ni barhau gyda gwaith cynnal a chadw yn yr amgueddfa.
Wrth i ni ddod i ddiwedd y gwaith adeiladu a fel mae’r cyfyngiadau COVID-19 yn llacio, ry’n ni’n gobeithio byddwn ni’n gallu agor rhagor o’n horielau i bawb unwaith eto. Fodd bynnag, gallwch ymweld â’r orielau ar lein
Rydym yn parhau i adolygu beth sy’n cael ei arddangos yn yr orielau celf i sicrhau ein bod yn adrodd hanes celf Cymru a chelfyddyd Cymraeg yn fwy creadigol ac yn fwy effeithiol.
Bwyd a Diod
- Mae’r caffi ar agor ar gyfer te, coffi a byr-brydau. Bydd y bwyty ar ein llawr gwaelod ar gau
Toiledau
Bydd y toiledau ar agor, ac rydym wedi creu trefn lanhau estynedig er eich diogelwch. Er lles ymwelwyr a staff, rydym yn argymell gwisgo gorchudd wyneb.
Yw’r toiledau a chyfleusterau newid babi ar agor?
Mae ein toiledau a’r cyfleusterau newid babi yn parhau ar agor. Rydym wedi rhaglennu trefn lanhau estynedig ar gyfer y gofodau yma, a byddwn yn cyfyngu’r niferoedd all defnyddio’r cyfleusterau ar yr un pryd.
Alla i ddefnyddio’r profiad Realiti Rhithwir?
Oherwydd y risg i’r cyhoedd ac i staff, bydd Antur: Y Ddaear, ein profiad Realiti Rhithwir, ar gau am y tro.
Ble mae'r casgliadau Archaeoleg yn cael eu cadw?
Nodwch bod y casgliad archaeoleg bellach wedi symud i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac wedi cael ei ail-ddehongli i adrodd straeon pobl Cymru.
Grwpiau
Cyngor i gwmniau bysiau
Pam mae’n rhaid i mi dalu i barcio?
Rydym wedi bod yn codi tâl am barcio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amguedddfa Werin Cymru ac yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ers nifer o flynyddoedd, a bydd hyn yn parhau. Elusen ydyn ni, ac mae pob ceiniog o elw o’r meysydd parcio yn cefnogi ein gwaith gyda chymunedau ledled Cymru.